Rydyn ni yn “Parod, Bodlon ac Abl”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cymryd rhan yn ymgyrch “Yn Barod, yn Fodlon ac yn Gallu” Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (CCPST) a lansiwyd heddiw (y 15fed o Ebrill), ac mae’n dangos sut mae gwasanaethau tân ac achub y DU yn parhau i amddiffyn a chefnogi eu cymunedau yn ystod pandemig COVID-19.
Bydd diffoddwyr tân a staff cymorth ledled De Cymru yn rhannu straeon a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â sut maen nhw’n defnyddio eu hystod eang o sgiliau i dawelu meddyliau a helpu’r gymuned wrth ymateb i’r argyfwng cenedlaethol.
Rydym yn parhau i weithio gyda’n sefydliadau partner megis Fforymau Hydwythedd Lleol a grwpiau gwirfoddol, yn ogystal â chefnogi partneriaid iechyd lleol yn ystod yr amser digynsail hwn.
Mae hwn yn gyfnod anodd a heriol ac rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar barhau i ddarparu gwasanaeth ymateb brys effeithiol ac effeithlon ar draws ein cymunedau De Cymru.
Er y gallai’r amgylchiadau a’r cyngor yn prysur newid yn barhaus, ni fydd ein hymrwymiad i ddiogelu ein staff a’r sawl yr ydym yn falch o’u gwasanaethu yn newid.
Yn ogystal â’n gwasanaeth ymateb brys byddwn yn parhau i ddarparu addysg, gwasanaethau atal ac amddiffyn i gymunedau De Cymru gyda mesurau rheoli ychwanegol.
Rydym yn Barod, yn Fodlon ac yn Gallu gwneud popeth a allwn i leihau effaith COVID-19 a helpu i gefnogi pobl yma yn Ne Cymru.
Dywedodd Roy Wilsher, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân:
“Mae Gwasanaethau Tân ac Achub ledled y DU yn enwog am ymateb yn broffesiynol i ddatblygiadau annisgwyl ac nid yw’r argyfwng cenedlaethol hwn yn wahanol. Rydym yn falch iawn o griwiau am gamu ymlaen, gan ddefnyddio eu hystod eang o alluoedd a sgiliau i sicrhau sicrwydd a chefnogaeth i gymunedau, wrth barhau i ymateb i argyfyngau, yn ystod cyfnod COVID-19.
“Mae’r ymrwymiad i’w cymunedau yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn yn adlewyrchu eu dynoliaeth a’u gofal parhaus.”