Rhydd-ddeiliad a Les-ddeiliad yn cael eu gorfodi i dalu dros £4,000 gan Ynadon Caerdydd

Gorfodwyd Mr. Erdal Kaya a Mr. Erol Kaya i dalu cyfanswm o £4,593 am fethu ymateb i geisiadau am wybodaeth a wnaed gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (ATADC) a oedd yn ymwneud â thramgwyddau diogelwch tân o fewn yr adeilad.

Yn Hydref 2022, cynhaliodd Swyddogion Diogelwch Tân i Fusnesau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) Gwiriad Hysbysiad Gwahardd yng Nghaffi’r Tuck In ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen yng Nghaerdydd, lle mae Mr. Erol Kaya’n Rhydd-ddeilydd a Mr. Erdal Kaya’n Les-ddeilydd, i sicrhau nad oedd y man a waharddwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben heblaw’r rhai hynny a nodwyd o fewn yr Hysbysiad Gwahardd a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Fe wnaeth yr ymchwiliad adnabod fod posibilrwydd y torrwyd yr Hysbysiad Gwahardd ac ymgymerwyd ag ymchwiliad gan y swyddog arolygu.

Fe wnaeth swyddogion o dîm cydymffurfiaeth GTADC ymgymryd ag ymchwiliad pellach i sefydlu pwy oedd yn gyfrifol am y safle gan gynnwys y darpariaethau diogelwch tân. Gydol yr ymchwiliad, cyflwyniwyd ceisiadau am wybodaeth a oedd yn ymwneud â darpariaethau diogelwch tân o fewn yr adeilad. Ni dderbyniwyd y wybodaeth a ofynnwyd amdani naill ai gan Mr. Erol Kaya na Mr. Erdal Kaya, gan adael GTADC â dim opsiwn ond i fynd â’r mater drwy’r llys.

Yn dilyn hyn, derbyniodd Mr. Erdal Kaya a Mr. Erol Kaya wŷs i fynychu Llys Ynadon Caerdydd ar y 27ain o Orffennaf 2023.  Yn gweithredu ar ran ATADC, cyflwynodd Miss. Leah Ellison o gwmni Hugh James, Caerdydd, yr achos yn erbyn y diffynyddion. Cafwyd Mr. Erdal Kaya a Mr. Erol Kaya ill dau’n euog o un trosedd o dan Erthygl 27 o’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ac fe’u dirwywyd cyfanswm o £4,593 gan gynnwys costau.

Gellir fod wedi osgoi’r ddirwy hon pe baent dim ond wedi ymateb gyda’r wybodaeth angenrheidiol i GTADC. Mae’r ymchwiliad i’r tramgwyddau diogelwch tân dal ar waith.

Meddai Pennaeth Adran Diogelwch Tân i Fusnesau GTADC, Rheolwr Grŵp St. John Towell:

“Ein rôl yw gorfodi deddfwriaeth diogelwch tân mewn safleoedd sy’n disgyn o fewn cwmpas y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ynghyd â sicrhau bod y safleoedd hyn yn ddiogel. Rydym yn gwneud hyn wrth weithio â busnesau ar draws De Cymru i’w cefnogi hwy i amddiffyn eu busnes rhag risg. Yn yr achos hwn, aethom allan o’n ffordd i geisio am wybodaeth sylfaenol i’n galluogi i ddilyn protocolau cyfreithiol.

“Mae’r dirwyon a’r costau a dderbyniwyd yn gwbl briodoladwy i’r methiant i ddarparu gwybodaeth. Neges glir yw hon i aelodau’r gymuned fusnes fod angen iddynt ymateb i geisiadau ffurfiol a wnaed gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch y Gorchymyn Diogelwch Tân 2005, ei effaith ar eich busnes a sut all ein hadran Diogelwch Tân i Fusnesau gydweithio â’ch busnes, ymwelwch â ein Tudalen Mewn Busnes.