Gyda Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru mae iechyd a lles ein staff a’n gwirfoddolwyr yn hollbwysig. Fel ymatebwyr brys gall ein staff wynebu heriau ychwanegol i’w hiechyd meddwl, oedd dan bwysau cynyddol yn ystod pandemig y Coronafeirws. Gyda’n gilydd, a gyda chymorth Mind sef elusen iechyd meddwl arbenigol, rydym yn addo sicrhau bod ein staff a’n gwirfoddolwyr yn gallu cael gafael ar gymorth ac adnoddau a hyfforddiant pwrpasol. Mae Rhaglen Golau Glas Mind yn darparu gwybodaeth a chymorth gwybodus, gan sicrhau bod gan y sawl sydd ei angen fynediad at y cymorth iawn, a ddarperir yn y ffordd iawn ac ar yr adeg iawn.

Wedi’i ariannu gan y Sefydliad Brehninol gyda’i hanes hir o godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac sydd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi gwasanaethau brys. Mae’r Rhaglen Golau Glas yn gweithio gyda chymuned y gwasanaethau brys, gan gynnwys Elusen Staff Ambiwlans, Police Care UK ac Elusen y Diffoddwyr Tân i sicrhau bod gan ymatebwyr brys fynediad at adnoddau a hyfforddiant iechyd meddwl o ansawdd uchel i herio stigma a gwella lles. Y tu hwnt i ariannu’r cam hwn o’r Rhaglen Golau Glas, bydd Mind yn parhau i gefnogi’r gwasanaethau brys drwy ddarparu eu gwybodaeth a’u gwasanaethau lles cyffredinol yn y gweithle.

Dywedodd David Crews, Rheolwr Criw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Arweinydd Prosiect Iechyd Meddwl: “Mae’r pandemig wedi bod yn ffactor trechol yn ein bywydau personol a phroffesiynol ond roedd ymrwymiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ddiogelu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu yn ystod y cyfnod heriol wedi bod yn fwy na hyn oll. Mae staff ar draws y Gwasanaeth wedi cynnig eu cefnogaeth yn y frwydr yn erbyn Covid-19, gan gynnwys gyrru ambiwlansys a gwirfoddoli mewn canolfannau brechu. Mae iechyd a diogelwch ein staff yn hollbwysig ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ac elusennau iechyd meddwl arbenigol gan gynnwys Mind i sicrhau ein bod yn cynnig y cymorth cywir i gadw ein pobl yn ddiogel ac yn iach. Rydym yn deall bod heriau unigryw ynghlwm wrth weithio mewn rôl gyda’r gwasanaeth brys ac mae’r Rhaglen Golau Glas yn cynnig cymorth pwrpasol i’n staff pan fydd ei angen fwyaf arnynt. Mae tirwedd yn esblygu’n barhaus mewn perthynas â lles ac rydym yn adolygu ac yn addasu ein dulliau o weithio’n gyfannol gyda’n partneriaid i sicrhau bod ein cynnydd yn y maes hwn yn cael ei fonitro a’i adolygu’n barhaus.”

I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Golau Glas Mind, ewch i mind.org.uk/bluelight