Prosiect Dol Rwsaidd yn ymddangos am y tro cyntaf yn oriel Abertawe

Yn ystod haf 2023, bu Canolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn gartref i weledigaeth artist; gyda chymorth tân 15 troedfedd o uchder, a chamera bocs mewn dol fawr Rwsiaidd. Erbyn hyn, mae’r gwaith a ddeilliodd o hynny i’w weld yn oriel Glynn Vivian yn Abertawe a bydd yno tan ganol mis Mai.

Syniad artist o’r enw Kristel Trow o Benarth yw’r prosiect Doll Rwsiaidd, ac mae’n ceisio archwilio trais, sy’n bwnc sensitif,  trwy ffotograffiaeth a symbolaeth. Nod yr artist yw hyrwyddo ac uno menywod o ran y profiadau cyffredin oedd ganddynt o ganlyniad i gamdriniaeth ac adfyd.

Kristel a dynnwyd llun y sawl sy’n destun i’r prosiect – sef goroeswyr trais a cham-drin domestig a’u teuluoedd – gan ddefnyddio camera a adeiladwyd yn arbennig o fewn replica, trwm o ddoliau poblogaidd o Rwsia.

Cysylltodd Kristel â GTADC i gael defnyddio’r rig hazmat yn y Ganolfan Hyfforddi a Datblygu – gan fod angen tân mawr i ymddangos yn gefndir i’w gwaith – a hefyd am resymau teimladwy. Roedd Kristel yn tynnu llun Carol Whicher, y cafodd ei nith, Clare Wood, ei cham-drin, ei haflonyddu, ei llofruddio, a’i llosgi wedyn gan ei chyn-gariad ar y pryd. Roedd y dyn yn hysbys i’r Heddlu ac roedd e wedi cyflawni dedfrydau o garchar am droseddau trais domestig yn y gorffennol.

O ganlyniad i’r weithred erchyll hon o drais, cafodd tad Clare, Michael Brown, ei ysbrydoli i ymgyrchu’n llwyddiannus dros dderyn Deddf Clare – a elwir hefyd yn Gynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS) – sy’n rhoi’r hawl i bobl wybod a oes gan eu partner cyfredol neu gyn-bartner unrhyw hanes o drais neu gamdriniaeth.

Yn anffodus bu farw Michael yn 2020, ond mae Carol yn parhau â’r gwaith a gychwynnodd byth ers hynny. Ar ôl teithio i lawr o Aberdeen i Gaerdydd i ymddangos yn y prosiect ym mis Gorffennaf 2023, dywedodd Carol ar noson agoriadol yr arddangosfa:

“Kristel a daniodd tân. Rwyf wedi bod yn aros am amser hir i godi ymwybyddiaeth am hyn.

“Pan ddechreuodd Michael ei ymgyrch, roedd yn teimlo fel llais unig yn yr anialwch. Ond gan ei fod e wedi rhoi 12 mlynedd o’i fywyd i achos roedd rhaid ei gyflawni. Bu farw, gwaetha’r modd, a’r adeg honno penderfynais i barhau gyda’r ymgyrch a gychwynnodd a’i waith ill ddau.”

Cipiodd Kristel lun Carol, yn eistedd heb ddangos emosiwn, gyda thân enfawr, cynddeiriog y tu ôl iddi, gydag Ymladdwyr Tân gerllaw i sicrhau bod yr ymarfer yn cael ei wneud mewn ffordd ddiogel a dan reolaeth.

Dywedodd Kristel:

“Roedd y ffilmio a wnaethom mewn cydweithrediad â Carol Whicher a Chyfleuster Hyfforddi Porth Caerdydd yn wirioneddol bwerus a phwysig er mwyn tynnu sylw at Ddeddf Clare. Byddaf  yn ddiolchgar iawn i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am byth am ein cefnogi i gyflawni hyn.”

Mae Carol a Kristel yn gobeithio y bydd y prosiect yn helpu i ledaenu neges Deddf Clare, yn ogystal â neges ehangach am nerth menywod ledled y byd sy’n wynebu camdriniaeth bob dydd, i gynulleidfa mor eang â phosibl.

I ddarganfod mwy am Brosiect Dol Rwsaidd, ewch i: https://www.glynnvivian.co.uk/whats-on/kristel-trow-the-russian-doll/