Poethfan tân sbwriel wedi’i gau ym Magwyr

Yn dilyn cyfres o danau sbwriel bwriadol ar safle ger Comin Barecroft ym Magwyr, mae gwaith partneriaeth llwyddiannus wedi adfer y mater.

Bu diffoddwyr tân o’r Maendy a Chil-y-Coed yn gweithio’n agos â Thîm Troseddu Tân y Gwasanaeth, Tîm Heddlu Gwledig Heddlu Gwent a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Digwyddodd ymweliad safle aml-asiantaeth gyda’r perchennog tir ac, yn dilyn ymgynghoriad, peidiodd y llosgi deunydd ac fe gliriwyd y safle.

Dywedodd y Pennaeth Gorsaf Dân Leol, Gareth Evans, “Fe wnaeth y gwaith partneriaeth effeithiol a arddangoswyd yma law yn llaw â’n partneriaid ostwng y risg i’r gymuned leol a’r amgylchedd. Mae’r delweddau cyn ac ar ôl y digwyddiad yn dangos y canlyniad cadarnhaol a gyflawnwyd yn glir. Mae cynnau gwastraff yn fwriadol yn hynod beryglus ac mae cost i ni i gyd – traul ar adnoddau’r gwasanaethau brys, niwed i’r amgylchedd, colledion bywyd i fywyd gwyllt a risg i eiddo a bywyd. Hoffwn atgoffa preswylwyr fod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y gwaredwyd eu gwastraff yn gywir. Ar bob adeg, rydym yn argymell defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig a gwiriwch am hawlen, drwydded neu esgusodiad.”

Gall yr hyn a fwriadwyd i fod yn dân bychan yn unig wasgaru’n gyflym a datblygu i fod allan o reolaeth.

Llynedd, roedd bron i 4,000 o danau sbwriel ar draws Cymru, y prif achosion oedd bagiau bin y cartref, celfi a dipiwyd yn anghyfreithlon a sbwriel sydd yn cael ei gynnau’n fwriadol o ganlyniad.

Mae tanau sbwriel yn hynod beryglus a gallent arwain at straen ar adnoddau pan gall fod argyfyngau eraill lle bydd bywydau mewn perygl.

Os ydych chi’n dewis gadael sbwriel, efallai gallech fod yn bwydo’r tân a dewis cyfrannu at drasiedi. Os gwelwch yn dda, cymerwch gyfrifoldeb a sicrhewch y gwaredir eich gwastraff yn gywir.

Defnyddiwch gludydd sbwriel rhestredig bob tro #PeidiwchRoiTanwyddaryTân