Pelaton Blynyddol Pennaeth

Cynhelir Pelaton Blynyddol Pennaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru cyn bo hir. Digwyddiad caled  dros bellter o 160 milltir yw’r pelaton lle bydd 24 aelod o staff GTADC yn beicio o Gas-gwent i Brighton ac yn ôl i godi arian i’r Eslusen Ymladdwyr Tân.

Dan arweiniad Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân ac Achub De Cymru, a gafodd ei enwi fel un sy’n derbyn Medal Gwasanaeth Tân yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines y penwythnos diwethaf, dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r digwyddiad gael ei gynnal. Mae llwybrau blaenorol yn cynnwys taith o amgylch gorsafoedd De Cymru, taith o Ogledd Cymru i Dde Cymru – gan ymweld â’r tri Phencadlys Gwasanaethau Tân ac Achub o fewn Cymru, a thaith y llynedd oedd yn brofi’r tîm â llwybr newydd o Dde Cymru i Gaerwysg.

Bydd y digwyddiad eleni mor heriol ag erioed, gyda’r cyfranogwyr yn cychwyn o’r hen Bont Hafren am 10 yb Ddydd Iau (y 14eg o Fehefin 2018) i gyrraedd Gorsaf Dân Brighton, gan fynd yn ôl i Gymru wedyn (Dydd Gwener y 15fed o Fehefin 2018).

Fel y blynyddoedd blaenorol, bydd y tîm pelaton hefyd yn ymweld â chanolfan seibiant Elusen Ymlaaddwyr Tân lle byddant yn dyst i’r ystod o gymorth adsefydlu, ymadfer a nyrsio a roddir i bersonél y gwasanaethau brys a chwrdd â’r staff. Mae eu gôl codi arian y tîm yn cael hwb eleni, diolch i gwmni Thomas Recruitment o Lanisien, sydd wedi cychwyn eu hymdrechion gyda rhodd o £2,000.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway:

“Mae’r Elusen Ymladdwyr Tân yn darparu cymorth eithriadol i staff y gwasanaeth brys a’u teuluoedd ac rydym yn fach iawn i wnued y palaton bob blwyddyn i’w helpu i barhau â’r gwaith gwych hwn. Er ei bod yn her anodd, mae’n cael ei gwneud mewn hwyliau da, ac ar ôl misoedd llawer yn hyfforddi rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fynd ar y ffordd. Ar ran pob un ohonom, diolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi – bydd eich caredigrwydd yn gymorth gwirioneddol wrth wneud gwahaniaeth i Elusen yr Ymladdwyr Tân a’r rhai y meant yn eu cefnogi.”

 Dywedodd Jason Thomas, Cyfarwyddwr Rheoli Thomas Recruitment:

“Rydym yn falch iawn o noddi Peloton Elusen y Diffoddwyr Tân, mae’n ddigwyddiad gwirioneddol wych sy’n codi ymwybyddiaeth ac arian am achos anhygoel ac mae’n chwarae rhan mor bwysig yn y gymuned.”

Mae digon o amser ar ôl o hyd i chi ddangos eich cefnogaeth. Cyfrannwch heddiw drwy ymweld â: https://www.justgiving.com/fundraising/huw-jakeway3