Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o gefnogi’r ymgyrch Parchwch y Dŵr a lansiwyd gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI)

Mae’r RNLI wedi cyhoeddi bod saith o bobl yn honni bod ‘arnofio’ wedi helpu i achub eu bywydau yn 2017, ar ôl i’r elusen ei argymell yn un o’r sgiliau goroesi allweddol yr haf diwethaf

  • Mae ffigurau marwolaethau’r arfordir a ryddhawyd heddiw yn dangos bod 109 o bobl wedi colli eu bywydau ar arfordir y DU yn 2017 (156 mewn 2016)
  • Nid oedd dros hanner (55%) yn bwriadu mynd i mewn i’r dŵr
  • Roedd 91% o’r marwolaethau yn ddynion – y gyfran uchaf erioed

Wrth i ymgyrch atal boddi cenedlaethol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub o’r enw Parchwch y Dŵr yn dechrau ar ei bumed flwyddyn, mae’r elusen yn annog unrhyw un sy’n mynd i drafferth mewn dŵr oer i aros yn ddigynnwrf ac ‘arnofio’.

Dywed Ross Macleod, llefarydd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub: ‘Mae colli rhywun achos boddi yn brofiad ysgytwol, felly rwy’n falch iawn bod sawl un wedi dweud bod Cyngor ymgyrch  ‘Parchwch y Dŵr’ Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub am arnofio wedi bod yn gymorth iddynt oroesi mewn sefyllfa beryglus yn y dŵr y llynedd.

“Rwy’ hefyd yn cael fy nghalonogi gan ffigur 2017 ar gyfer marwolaethau ar yr arfordir gan ei fod yn is na ffigur y blynyddoedd blaenorol. Rydym yn obeithiol bod ein hymgyrchoedd diogelwch a’n gwaith addysg wedi cyfrannu at leihau marwolaethau arfordirol, ond ni allwn bwyso ar ein rhwyfau. Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn parhau i rannu cyngor sy’n achub bywydau er mwyn sicrhau bod gostyngiad y llynedd yn dod yn rhan o duedd hirdymor lleihad marwolaethau arfordirol. Mae colli un unigolyn drwy foddi yn un yn ormod.

Ystadegyn sy’n peri pryder arbennig yw bod marwolaethau ymhlith dynion yn 91% o’r marwolaethau, gyda llawer ohonynt yn diweddu yn y dŵr yn annisgwyl. Dengys hyn yn glir bod angen gwneud llawer mwy i helpu dynion i gadw eu hunain yn ddiogel ar lan yr arfordir. ‘

Eleni mae’r elusen yn galw ar y cyhoedd i ymarfer ‘arnofio’ sy’n sgìl goroesi ac yn sgìl syml a allai olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth – a rhannu’r wybodaeth hon sy’n achub bywydau gydag eraill.

I’r rhai sy’n bwriadu mynd i mewn i’r dŵr, y ffordd orau i’w fwynhau’n ddiogel yw dewis traeth ag achubwyr bywydau a nofio rhwng y baneri coch a melyn – sef yr ardal sy’n cael ei monitor fwyaf gofalus agosaf gan yr achubwyr bywydau. Ac os ydych yn gweld rhywun arall mewn perygl yn y dŵr ar yr arfordir, peidiwch ag ymateb yn reddfol a cheisio eu hachub eich hun, yn lle hynny ffoniwch 999 neu 112 a gofyn am Wyliwr y Glannau. ‘

Mae’r RNLI yn gofyn i bobl ymweld â RNLI.org/RespectTheWater i gael gwybodaeth ar arnofio.

Ar y cyfryngau cymdeithasol chwiliwch am #ParchwchYDŵr #ArnofiwchIFyw.

Ystadegyn sy’n peri pryder arbennig yw bod marwolaethau ymhlith dynion yn 91% o’r marwolaethau, gyda llawer ohonynt yn diweddu yn y dŵr yn annisgwyl. Dengys hyn yn glir bod angen gwneud llawer mwy i helpu dynion i gadw eu hunain yn ddiogel ar lan yr arfordir. ‘

Eleni mae’r elusen yn galw ar y cyhoedd i ymarfer ‘arnofio’ sy’n sgìl goroesi ac yn sgìl syml allai olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth – a rhannu’r wybodaeth hon, sy’n achub bywydau, gydag eraill.