Y gwasanaethau brys yn annog y cyhoedd i #Parchu’rDwr yn dilyn penwythnos gŵyl y banc prysur ym Mae Caerdydd

Y gwasanaethau brys yn annog y cyhoedd i #Parchu’rDwr yn dilyn penwythnos gŵyl y banc prysur ym Mae Caerdydd

 

Wrth i’r tywydd wella a chyfyngiadau lleol Covid-19 yn cael eu codi, mae Diogelwch Dŵr Cymru yn annog y cyhoedd i gadw’n ddiogel o gwmpas dŵr agored.

 

Gyda miloedd yn heidio i Fae Caerdydd dros benwythnos gŵyl y banc yn ddiweddar, mae pryderon cynyddol am ddiogelwch dŵr a risg i fywyd. Nod Diogelwch Dŵr Cymru, tasglu o asiantaethau allweddol â diddordeb mewn diogelwch dŵr ac atal boddi, yw addysgu a lleihau achosion o achub yn gysylltiedig â dŵr. Mae’r grŵp yn rhagweld cynnydd mewn ‘gwyliau gartref’ eleni oherwydd y cyfyngiadau teithio cyfredol gyda llawer o bobl yn dewis mynd ar wyliau ym mannau prydferth Cymru ar lan dŵr agored.

 

Bob blwyddyn mae tua 600 o farwolaethau o ganlyniad i ddŵr yn y DU ac yng Nghymru ceir 45 o farwolaethau ar gyfartaledd mewn dyfroedd arfordirol a mewndirol. Nid oedd bron i chwech o bob deg (58%) o bobl a fu farw o ganlyniad i ddamwain yn y dŵr wedi bwriadu mynd i’r dŵr o gwbl. Gan fod canolfannau hamdden a phyllau nofio ar gau o hyd, gall dŵr agored megis y môr, cronfeydd dŵr, llynnoedd, afonydd, pyllau a llynnoedd chwarel ymddangos yn ddewis amgen deniadol dros ben i ymdrochi am ychydig neu gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr. Mae hyn yn arbennig o wir am leoliadau ger ardaloedd trefol, megis Bae Caerdydd. Er y gallai dŵr ymddangos yn ddeniadol ar ddiwrnod poeth, yn aml bydd peryglon amrywiol yn cuddio dan y wyneb.

 

Dywedodd Dave Ansell, Arweinydd Diogelwch Dŵr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rydym yn deall nad yw llawer o bobl wedi cael teithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf achos cyfyngiadau’r Llywodraeth. Os ydych chi’n bwriadu cael gwyliau gartref sy’n cynnwys gwibdaith ar lan y môr neu fannau hardd mewndirol Cymru ar lan dŵr, cofiwch gadw’n ddiogel a pheidiwch â chymryd unrhyw risgiau diangen. Yn dilyn pryderon am ddiogelwch y sawl a ymwelodd â Bae Caerdydd dros benwythnos gŵyl y banc, sef lleoliad sy’n agos i ddŵr agored, rydym yn annog y cyhoedd i beidio ag anwybyddu arwyddion rhybuddio ac i gofio eu bod yno i’ch diogelu. Er bod y tywydd yn gynnes, mae’r dŵr yn oer iawn o hyd. Gall dŵr oer achosi ‘sioc dŵr oer’ gan achosi i’r unigolyn hwnnw fod mewn perygl o foddi.  Hefyd, mae dŵr oer yn amharu’n sylweddol ar y gallu i nofio, a gall hyd yn oed gyhyrau nofwyr cryf flino’n gynt felly ac yn ogystal â hyn gall unigolion golli cysylltiad â’r amgylchfyd. Dylai unrhyw un sy’n dioddef gan sioc dŵr oer beidio â mynd i banig. Dylech ymlacio ac arnofio ar eich cefn nes bydd y sioc gan y dŵr oer wedi mynd ac wedyn gallwch gymryd cam nesaf, sef galw am help neu nofio i fan diogel. Ar ben hyn oll mae llawer o beryglon cudd o fewn dŵr agored megis sbwriel o’r golwg a malurion a all achosi anafiadau sylweddol, gan arwain at achub o ddŵr gan y gwasanaethau brys. Parchwch y dŵr ac arhoswch yn ddiogel.”

 

Dywedodd Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru a chynrychiolydd SCBBA: “Rydym yn gwybod nad oedd llawer o bobl sy’n gysylltiedig â marwolaethau a digwyddiadau difrifol ar yr arfordir a dŵr mewndirol yn bwriadu mynd i’r dŵr o gwbl, gyda llawer ohonynt yn gwneud gweithgareddau bob dydd megis cerdded neu redeg. Rydym yn annog unrhyw un sy’n trefnu taith i’r dŵr i ystyried y tywydd a’r llanw bob amser. Dywedwch wrth rywun ble fyddwch chi’n mynd a phryd mae disgwyl i chi ddod yn ôl. Dylech fynd â rhyw fodd i alw am help a dylech gadw hwnnw gyda chi bob amser. Mewn argyfwng ar yr arfordir, ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau neu mewn argyfwng mewn lleoliad dŵr mewndirol megis  afon, llyn, cronfa ddŵr neu chwarel ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub.’

 

Yn ddiweddar lansiodd Diogelwch Dŵr Cymru Strategaeth Atal Boddi genedlaethol gyntaf Cymru, sy’n anelu at leihau nifer y marwolaethau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru.

 

Dywedodd Chris: ‘Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn credu bod hyd yn oed un farwolaeth yn ormod a bydd modd lleihau’r achosion o foddi os bydd pawb yn talu sylw. Ein bwriad yw gweld dim marwolaethau’n gysylltiedig â dŵr o gwbl yng Nghymru a nod ein Strategaeth Atal Boddi yw galluogi pobl sy’n byw yng Nghymru ac ymwelwyr ill dau i fod yn fwy diogel mewn dŵr, ar ddŵr ac o gwmpas dŵr drwy leihau marwolaethau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â dŵr. I ddarllen y Strategaeth neu i gael gwybod mwy am Ddiogelwch Dŵr Cymru, ewch i: https://www.diogelwchdwrcenedlaethol.org.uk/cymru/strategaeth-atal-boddi-cymru/’

Wrth fynd yn agos i ddŵr dylai pawb ystyried yr amgylchiadau gan gynnwys newidiadau i’r llanw, a dylech uffuddhau i arwyddion diogelwch a dilyn canllawiau’r llywodraeth.