Pa Mor Ddiogel yw Eich Trefniadau Gweithio Gartref?

Yn ôl ‘Electrical Safety First’ gallai llawer o bobl yng Nghymru sy’n gweithio gartref o ganlyniad i bandemig fod yn gorlwytho socedi, cadwyno ceblau gyda’i gilydd a gwefru dyfeisiau ar welyau

Wrth i niferoedd enfawr o bobl yng Nghymru ymaddasu i drefn weithio newydd, gallai llawer ohonynt fod yn peryglu eu hunain yn ddiangen achos trefniadau trydanol ac arferion anniogel gartref, mae Elusen yn rhybuddio.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan elusen diogelwch y cwsmer, Electrical Safety First, wedi edrych ar y peryglon y gallai cenedl o weithwyr o bell newydd fod yn agored iddynt yn ddiarwybod.

Gyda mwy o ddefnydd o offer trydanol megis gliniaduron, tabledi, ffonau a gwresogyddion  mewn llawer o gartrefi, mae arolwg newydd gan yr Elusen wedi canfod bod mwy na dwy ran o dair o bobl yng Nghymru sy’n gweithio gartref ar hyn o bryd yn defnyddio ceblau neu addasyddion estyn gyda’r ddyfais electronig maen nhw’n gweithio arnynt [1] ac mae gan bron i hanner ohonyn nhw fwy o ddyfeisiau wedi’u plygio i un ohonynt nag arfer [2].

Mae’n destun pryder bod bron i draean naill ai’n anymwybodol o’r risg yn ymwneud â gorlwytho socedi plygiau neu sut i wirio a ydynt yn gwneud hynny [3]. Trwy ddefnyddio ceblau estyn ac addasyddion i blygio dyfeisiau ychwanegol i soced, mae perygl y gallent gael eu gorlwytho, gan greu risg tân.

Yr hyn sy’n achosi mwy fyth o bryder yw’r ffaith fod dros hanner y bobl yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn gweithio gartref yn defnyddio ceblau estyn neu addasyddion fel rhan o’r trefniadau yn cyfaddef eu bod nhw’n ‘cysylltu ceblau’ gyda’i gilydd [4]. Mae ‘cadwyno ceblau gyda’i gilydd’ yn golygu plygio un estyniad i’r llall er mwyn cyrraedd ymhellach neu gael plygio mwy o ddyfeisiau mewn ac fe’ch cynghorir yn erbyn hyn ym mhob achos.

Mater arall a nodwyd gan yr Elusen yw ymddygiad gwael yn yr ystafell wely, gyda 52 y cant o’r rhai a holwyd yng Nghymru naill ai’n gosod eitem drydanol fel gliniadur neu ffôn ar eu gwely tra’n ei wefru fel rhan o’u trefniadau gweithio gartref yn aml neu ar adegau [5]. Gall hyn hefyd greu risg tân achos potensial yr eitem orboethi. Dim ond ar arwynebau caled, anfflamadwy y dylid gadael eitemau trydanol oni bai eu bod wedi’u diffodd ac nad ydynt yn cael eu gwefru.

Mae ‘Electrical Safety First’ yn argymell i bobl sy’n gweithio o gartref fanteisio ar gyfrifiannell gorlwytho socedi’r Elusen i wirio nad ydynt yn plygio gormod o gyfarpar i mewn ar unwaith, ac i dalu sylw ychwanegol i’w diogelwch trydanol yn ystod eu cyfnod o weithio o bell.

Dywedodd Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Materion Cyhoeddus Electrical Safety First: “Gyda mwy na thri chwarter o’r bobl yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn gweithio gartref yn gwneud hynny am y tro cyntaf o ganlyniad i COVID-19, [6] nid yw’n syndod na fydd pawb wedi cael cyfle i wneud yn siwr bod eu gorsafoedd gwaith heb ddim peryglon trydanol.

Cymerwch ychydig o funudau i wneud yn siŵr nad ydych chi’n cadwyno ceblau estyn gydai’i gilydd neu’n gorlwytho’ch socedi a’ch bod chi’n gwefru’ch dyfeisiau ar arwynebau caled, nad anfflamadwy. Dylai pob un ohonom dalu sylw ychwanegol i ddiogelwch trydanol yn ystod y cyfnod y byddem yn gweithio o bell. Am fwy o fanylion yn ogystal ag offer defnyddiol, ewch i

Dywedodd Dean Loader,  Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Lleihau Risg a Rheolwr Grŵp   Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: ‘Os ydych chi’n gweithio gartref, yn hunanynysu neu’n cadw pellter cymdeithasol, rydym yn gwybod y byddwch yn treulio mwy o amser gartref yn ystod yr wythnosau nesaf. Gallai hyn gynyddu’r tebygolrwydd o gael tân yn eich cartref. Yn ffodus, drwy gymryd ychydig o gamau hawdd, gallwch chi leihau’r risg yn sylweddol i chi a’ch anwyliaid. Cofiwch wirio offer trydanol, peidiwch â gorlwytho socedi a pheidiwch BYTH â defnyddio eitemau neu nwyddau gwyn diffygiol. Dim ond hyn a hyn o bŵer y gall ceblau estyn ei ymdrin ag ef – os ydych chi’n plygio gormod o bethau i mewn mae’n bosib iawn y byddant yn chwythu. Gall nwyddau diffygiol hefyd fod yn broblem fawr. Os bydd eich peiriant golchi neu eich sychwr dillad yn dechrau mynd o chwith – rhowch y gorau i’w defnyddio a’i wirio ar unwaith. Yn ystod cyfnod hwn, sy’n heriol iawn i bob un ohonom, byddem yn gofyn, yn ogystal â derbyn y cyngor hwn eich hun, eich bod yn trosglwyddo’r negeseuon i’ch ffrindiau, eich cymdogion a’ch perthnasau. Cewch fod yn dawel eich meddwl bod ein diffoddwyr tân yn barod i ymateb i alwadau 999, ar draws De Cymru, yn ôl yr angen.”

Awgrymiadau gan Electrical Safety First ar gyfer gweithio’n ddiogel o gartref: 

•     Peidiwch â gwefru eitemau trydanol ar welyau. Dylech bob amser eu gwefru ar arwyneb caled, gwastad, anfflamadwy. Dylech chi osgoi gorlwytho socedi a cheblau estyn, defnyddiwch ein cyfrifiannell soced ar-lein i wirio
•     Cadwch eich gweithfan yn daclus. Gall llawer fod yn gweithio mewn gweithfan fach ac mae’n bwysig i chi gadw eich diodydd poeth ac oer oddi ar eitemau trydanol.
•     Byddwch yn ofalus o gwmpas ceblau, gallant fod yn berygl o ran baglu i chi a phobl eraill yn eich cartref
•     Peidiwch â chadwyno ceblau estyn gyda’i gilydd. Os nad yw eich cebl yn cyrraedd peidiwch â’i blygio i mewn i addasydd arall. Symudwch eich gweithfan yn nes at y soced neu defnyddiwch gebl hirach.
•     Byddwch yn wyliadwrus amser cinio. Gyda llawer ohonom yn coginio cinio gartref am y tro, mae’n bwysig nad yw eich sylw’n cael ei thynnu gan negeseuon e-bost neu alwadau gwaith gan a allai olygu bod yr hob yn cael ei adael ymlaen, heb oruchwyliaeth.

Nodiadau i Olygyddion:
•     Mae Electrical Safety First yn Elusen yn y DU sy’n ymroi i leihau ac atal difrod, anafiadau a marwolaeth a achosir gan drydan. Ceir rhagor o wybodaeth ar www.electricalsafetyfirst.org.uk
•    Cynhaliwyd gwaith ymchwil rhwng y 19eg a’r 25ain o Fawrth 2020 gan Censuswide gyda sampl o 3,000 o oedolion cyflogedig ar draws y Deyrnas Unedig, gyda phob un ohonynt yn gweithio gartref ar hyn o bryd, a 79 ohonynt yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
•     Joshua Drew Ffôn: 07864 009875 E: joshua.drew@electricalsafetyfirst.org.uk
•     Tom Davies Ffôn: 07866702069 E : tom.davies@electricalsafetyfirst.org.uk

[1]. Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Electrical Safety First ac a gynhaliwyd gan Censuswide yn cynwys 3,000 o bobl sy’n gweithio gartref yn y DU ar hyn o bryd, gyda 79 ohonynt yng Nghymru, fod 68.7% o ymatebwyr yng Nghymru wedi ateb ‘ydw’ i’r cwestiwn ‘O ran eich trefniadau gweithio gartref, ydych chi’n defnyddio unrhyw geblau Estyn neu addasyddion gyda’r ddyfais electronig rydych chi’n gweithio arni?

[2]. Canfu’r ymchwil uchod fod 48.7% o ymatebwyr yng Nghymru wedi ateb ‘Mwy’ i’r cwestiwn ‘Yn ystod eich amser yn gweithio gartref, a oes gennych fwy neu lai o ddyfeisiau wedi’u plygio i mewn i gebl estyn neu addasydd nag arfer? ‘

[3]. Canfu’r ymchwil uchod fod 30.4% o’r bobl a holwyd yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn defnyddio ceblau estyn neu addasyddion yn eu trefniadau gweithio gartref wedi ateb naill ai ‘Nid wy’n ymwybodol o’r risgiau posibl na sut i wirio nad wyf yn gorlwytho’, ‘Rwy’n ymwybodol o’r risgiau posibl ond nid wyf yn ymwybodol o sut i sicrhau nad wyf yn gorlwytho’ neu ‘Dydw i ddim yn credu bod unrhyw risgiau posibl a allai fod ynghlwm â chysylltu cyfarpar i’r un soced gan ddefnyddio addasydd aml-soced’ i’r cwestiwn ‘A ydych ar hyn o bryd yn ymwybodol o unrhyw risgiau posibl a allai fod ynghlwm â phlygio cyfarpar i’r un soced gan ddefnyddio addasydd aml-soced a sut i wirio a ydych yn gorlwytho’r soced? ‘

[4]. Canfu’r ymchwil uchod fod 51.9% o’r rhai a holwyd yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn defnyddio cebl estyn yn neu addasyddion ar y ddyfais y maent yn gweithio arni, wedi ateb ‘ydw’ i’r cwestiwn ‘A oes gennych unrhyw estyniad neu addasyddion wedi cadwyno gyda’i gilydd fel rhan o’ch trefniadau gweithio gartref (plygio estyniad i estyniad arall, er mwyn cyrraedd ymhellach neu blygio mwy o gyfarpar i mewn)? ‘

[5]. Canfu’r ymchwil uchod fod 52.2% o’r rhai a holwyd yng Nghymru yn ateb naill ai ‘yn aml’ neu ‘weithiau’ i’r cwestiwn ‘Yn ystod y cyfnod y byddwch chi’n gweithio gartref, pa mor aml ydych chi’n gosod dyfais drydanol fel gliniadur, ffôn neu dabled ar eich gwely tra bydd hi wedi’i phlygio i mewn a’i gwefru? ‘

[6]. Canfu’r ymchwil uchod fod 75.65% o’r atebwyr wedi ateb ‘Oes’ i’r cwestiwn ‘Ydy pandemig y Coronid – 19 yn golygu eich bod chi’n gweithio o gartref am y tro cyntaf?’