Noson Wobrwyo a Gwasanaeth Hir GTADC 2023

Cydnabuwyd gwasanaeth rhagorol gan gydweithwyr ac aelodau o’n cymunedau gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn y Gwobrau Blynyddol a Noson Cyflwyno Gwasanaeth Hir ar 21ain o Fehefin 2023.

Cynhaliwyd y noson gan y Cynghorydd Steven Bradwick, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub a Phrif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM. Ymysg y gwesteion roedd Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, yr Athro Peter Vaughan QPM CStJ; Meiri a Maeresau ein Hawdurdodau Unedol; Uchel Siryfion; Aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub a Swyddogion a Phenaethiaid Adran.

Cyflwynwyd y gwobrau Prif Swyddog Tân canlynol:

 

Cymeradwyaeth y Prif Swyddog Tân

Gary Griffiths a John Stone

Cyn i GTADC fynychu Gwrthdrawiad Traffig Ffyrdd ar yr A4232 ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth Gary Griffiths a John Stone, gyrwyr dau gerbyd yn y lleoliad, achub y dyn o gar oedd ar dân, gan dorri’r ffenestr gyda diffoddwr ac atal anaf angheuol.

Diffoddwr Tân Thomas Winstone

Ym mis Ionawr 2022, cafodd Thomas Winstone alwad gan ffrind oedd wedi sylwi ar fenyw ifanc ar ochr anghywir pont ym Mrynmawr. Neidiodd dros y rheiliau i’w hatal rhag neidio nes i’r criwiau achub â rhaff gyrraedd.

 

Llythyr Llongyfarch gan y Prif Swyddog Tân

Gwylfa Las, Gorsafoedd Malpas, Maendy a Dyffryn

Ymatebodd criwiau i dân mewn fflat yn oriau mân y bore ym mis Awst 2022. Roedd y preswylydd yn gaeth yn y fflat a chafodd ei achub gan griwiau tân, a gwneud
adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) am 20 munud cyn trosglwyddo’r anafedig, oedd yn ymateb erbyn hyn, i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

Gwylfa Goch, Gorsaf Aberbargod

Yn ystod tân mewn tŷ ym Margod ym mis Gorffennaf 2022, achubodd y criwiau unigolyn o lawr uchaf yr adeilad, gan orfod mynd heibio’r tân cynyddol, a hefyd atal y tân rhag lledu i eiddo cyfagos.

 

Criwiau Gorsaf Pencoed a Phen-y-bont ar Ogwr

Achubodd criwiau wraig oedrannus o dan amodau anodd ym mis Mai 2022, gan ddefnyddio ysgolion ac offer anadlu. Hefyd wnaeth dau aelod o’r criw ei chludo hi, gyda chymorth yr heddlu i’r ysbyty ar i gael ymyrraeth feddygol frys, gan achub bywyd yr unigolyn.

 

Rheolwr Criw Robert Jenkins a’r Diffoddwr Tân Denzel Lawrence

Cafodd Rheolwr Criw Jenkins a Diffoddwr Tân Lawrence eu galwi achos o gam-drin domestig gan fenyw a ddywedodd rhywun yn ymosod ar ei ffrind. Ymyrrodd y ddau aelod o’r criw i atal y gamdriniaeth a heb unrhyw gyswllt corfforol, llwyddon nhw i berswadio’r camdriniwr roi’r gorau iddi, a symud ymlaen, gan ddiogelu’r ddynes ac atal y sefyllfa rhag gwaethygu.

 

Rheolwr Gwylfa Paul Schofield

Cafodd oedolyn argyfwng meddygol mewn canolfan bêl-droed yng Nghasnewydd ym mis Ionawr 2023. Nid oedd Schofield sy’n Rheolwr Gwylfa ar ddyletswydd ar y pryd ond serch hynny, cymerodd reolaeth ar y sefyllfa, gan wneud hynny’n ddiffwdan, gan glirio plant o’r cyrtiau a gwneud wyth rownd o adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) ar yr anafedig, nes i’r parafeddygon gyrraedd.

 

Diffoddwyr Tân Nathalie Phillips ac Adam Collins

Mynychodd Gwylfa Las Glynebwy ddau ddigwyddiad yn ymwneud â phobl ifanc sy’n agored i niwed oedd yn bygwth neidio oddi ar bontydd. Ar ôl cael gwybodaeth y byddai’r person agored i niwed yn ymateb yn well i lais menyw, gosododd Ymladdwr Tân Collins system achub â rhaff, wrth i Ymladdwr Tân Phillips lwyddo i dawelu meddwl y dioddefwr, trwy gydol cyfnod o 20 i 30 munud.

 

Diffoddwr Tân Robert Allen

Ym mis Hydref 2022 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar adeg pan nad oedd Ymladdwr Tân Robert Allen ar ddyletswydd, aeth gŵr bonheddig yn ei dridegau cynnar yn sâl mewn digwyddiad cymdeithasol a llewygu. Gwnaeth Robert a’i chwaer-yng-nghyfraith (sy’n nyrs) adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) ar y gŵr bonheddig am dros 25 munud, nes iddo adennill ymwybyddiaeth a gwella ar ôl ychydig o ddyddiau yn yr ysbyty.

 

Gorsafoedd Pencoed, Pont-y-clun a’r Eglwys Newydd, a’r Ystafell Rheoli Tân ar y Cyd

O ganlyniad i dân mewn peiriant sychu dillad, aeth menyw ym Mhont-y-clun yn gaeth yn ei hystafell ffrynt. Roedd cyfathrebu ardderchog rhwng yr Ystafell Reoli, a swyddogion oedd ar y ffordd, gan sicrhau bod criwiau’n ymwybodol o’r canllawiau goroesi tân oedd yn cael eu rhoi a lleoliad cyfredol yr anafedig. Roedd y digwyddiad yn dangos bod arwyddion posib o chwythiad tuag yn ôl ac roedd angen ei reoli’n ofalus cyn cael mynediad. Defnyddiwyd offer anadlu i ddod o hyd i’r fenyw anymwybodol. Cafodd hi adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) wedyn, ac achubwyd ei bywyd.

 

 

 

 

Gwylfa Wen, Gorsaf Pontypridd = Paul Beynon, James Russell, Luke Jones, Joshua Roberts ac Aled Bound

Rhedodd White Watch Pontypridd i helpu unigolyn â phoenau yn y frest. Gofalon nhw amdano am fwy nag awr cyn rhoi adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio diffibriliwr pan gaeth ataliad y galon, gan achub ei bywyd cyn i’r ambiwlans gyrraedd.

 

Christopher Clarke

Helpodd Mr Clarke bobl mewn Gwrthdrawiad Traffig Ffyrdd, gan drefnu galw’r Gwasanaeth, sefydlogi’r cerbyd oedd wedi troi drosodd ac wedyn achub y baban a’r fam a oedd mewn trallod cyn i GTADC gyrraedd y lleoliad.

 

Llythyr Cymeradwyaeth gan y Prif Swyddog Tân

Grayson Taylor

Roedd Grayson Taylor, sy’n bedair oed, wedi dihuno ei rieni yn oriau mân y bore i’w rhybuddio am sŵn bîp yn dod o’r larwm carbon monocsid oedd yn canu wrth ymyl eu stôf llosgi coed. Darllenwch fwy am hanes Grayson.

 

Diffoddwyr Tân Stuart Hall a Gareth Willey

Roedd y ddau Ddiffoddwr Tân hyn ar ddyletswydd mewn cerbyd gwasanaeth a oedd yn mynd heibio i siop yng Nghaerdydd a sylwon nhw ar ddau ddyn yn rhedeg o’r siop yn cario bocsys, tra bod cynorthwyydd siop yn dal y dyn arall. Roedd un o’r lladron yn chwifio cyllell. Tynnodd y diffoddwyr tân sylw’r lleidr gan ddweud wrth y cynorthwyydd siop am fynd yn ôl i mewn i’r siop i fan diogel, cyn rhoi datganiadau i’r heddlu.

 

Simone Hallet

Cynorthwyodd Simone aelod arall o’r cyhoedd i gyflawni gweithredoedd achub bywyd mewn perthynas ag ymgais i gyflawni hunanladdiad yn ei chymuned leol a hynny ar adeg pan nad oedd ar ddyletswydd.

 

Rheolwr Criw Andrew Fisher

Roedd Rheolwr Criw Fisher yn aros mewn gwesty yn Coventry tra nad oedd ar ddyletswydd. Yn ystod oriau mân Hydref 2022, cychwynnodd tân yn y gwesty a chlywodd RhC Fisher  larwm, a chynigiodd helpu’r staff yn y dderbynfa gan nodi ei fod yn ddiffoddwr tân nad oedd ar ddyletswydd. Aeth e i’r ystafell lle adroddwyd am y tân, a ddefnyddiodd ddiffoddwr tân ar y tân, gan gyfyngu ar unrhyw ddifrod. Yn dilyn hynny cynorthwyodd gyda’r ymchwiliad a ganfu fod achos y tân yn ddamweiniol, gan fod gobennydd wedi’i gynnau’n ddamweiniol gan gannwyll fach. Cafodd RhC Fisher driniaeth am effeithiau anadlu mwg. Roedd ei weithredu prydlon wedi atal y tân rhag datblygu i fod yn ddigwyddiad mwy difrifol.

Gwobr am Ragoriaeth Weithredol

Gwylfa Goch, Gorsaf Trelái

Yn dilyn Gwrthdrawiad Traffig Ffyrdd ym mis Medi 2022, lle’r oedd y cerbyd wedi gadael y ffordd a mynd ar dân, gydag un teithiwr yn dal y tu mewn. Rhedodd diffoddwyr tân at y car a thynnu’r teithiwr drwy’r ffenestr wrth osgoi’r gwres a’r fflamau. Fe wnaeth y Rheolwr Gwylfa a’r Diffoddwyr Tân amddiffyn y criwiau wrth gyflawni’r achub trwy ddefnyddio’r rîl pibell i ddiffodd y tân a hefyd brysbennu nifer o anafusion arall, gan roi ocsigen iddynt wrth aros am yr ambiwlans.

 

Ystafell Reoli Tân Gwylfa Werdd,

Ym mis Mai 2022, aeth yr Wylfa Werdd i’r afael â nifer o alwadau anodd a hirfaith yn ystod sifft un nos, gan gynnwys gwraig anabl a oedd yn gaeth mewn fflat achos tân yn y gegin a gŵr oedrannus pryderus, marwolaeth person ifanc yn ystod digwyddiad a gweithio â’r heddlu i ymateb i fenyw hunanladdol a dod o hyd iddi.

 

Gwylfa Wen, Gorsaf Trelái

Mynychodd criwiau o Drelái dân oedd wedi hen sefydlu mewn fflat ar y llawr cyntaf, gan ddibynnu ar eu hyfforddiant i achub dau breswylydd oedd yn gaeth yn eu hystafell wely drwy’r ffenestr. Roedd y ddau’n ffodus gan nad oedd angen triniaeth am fwy nag effeithiau anadlu mwg arnynt. Gallai unrhyw oedi o ran ymateb y criw fod wedi arwain at ganlyniad llawer gwaeth.

 

Cyflawniad Arbennig (Tîm)

Personél Chwilio ac Achub Rhyngwladol (ISAR) – Rheolwr Gorsaf Darren Cleaves, Rheolwr Criw Emma Atcherley a Rheolwr Criw Tristan Bowen a Diffoddwyr Tân Rob Buckley a Luke Davison

Ym mis Chwefror 2023 cafwyd daeargryn yn ne a chanol Twrci a gogledd a gorllewin Syria. Anfonwyd ISAR, a gwirfoddolodd Tîm De Cymru i fynd hefyd, gan achub wyth o bobl a gladdwyd yn y rwbel, a thywys timau achub at dri o bobl eraill gyda chymorth cŵn achub. Anfonwyd Chwilio ac Achub Rhyngwladol i Malaŵi hefyd, i helpu’r ymgyrch achub o ddŵr.

 

Partneriaeth Eithriadol

Rheolwr Gorsaf Nev Thomas

Bu Rheolwr Gorsaf Nev Thomas yn allweddol wrth greu’r ymgyrch ‘Dim ond un funud’ i gefnogi’r newid terfyn cyflymder 30-20 mya, gan weithio’n ddiflino ar y cyd â’r heddlu, yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i sefydlu’r gwaith hwn ledled Cymru.

 

 

 

Miss Tilley’s

Ers mis Hydref 2019 mae Miss Tilley’s wedi darparu cyfleusterau ffreutur ym mhencadlys GTADC. Bob amser cinio ac amser egwyl byddem yn gweld eu hwynebau cyfeillgar a’u parodrwydd i wasanaethu cwsmeriaid yn y ffreutur a mynd â’r troli byrbrydau o gwmpas yr adeilad. Mae Miss Tilley’s wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr i gydlynydd gwirfoddolwyr y flwyddyn, Clare Rowthorn, sy erbyn hyn yn wyneb cyfarwydd yn y Pencadlys. Mae Miss Tilley’s wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu gardd y pencadlys.

 

Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da

Dyfernir Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da gyda’r Gwasanaeth Tân gan Ei Fawrhydi’r Brenin, sydd wedi datgan ei fod yn awyddus i anrhydeddu’r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth hir a theilwng fel aelodau o Frigadau Tân yn y Deyrnas Unedig. Cyflwynwyd y canlynol i gydweithwyr:

Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da – 20 mlynedd o wasanaeth

  • Rheolwr Ardal Neil Davies
  • Rheolwr Grŵp John Treherne
  • Rheolwr Gorsaf Brian Williams
  • Rheolwr Gorsaf Michael Hill
  • Rheolwyr Gwylfa Martin Betts, Paul Beynon, Stephen Griffiths, Huw Hughes a Stephen Owen
  • Rheolwyr Criw Adam Edwards, Gareth Bridgewater, David Browne, Gary Lewis, Ryan Luker a Jason Pritchard
  • Diffoddwyr Tân Christopher Barber, Jared Cockings, Christopher Harrison, Jeffrey Jones, Rhodri Jones, Daniel Lloyd, Jason Parry, Marcus Symon, Benjamin Teixeira, Khris Thomas, Lee Thomas, Neil Thomas, Gareth Willey a Dean Williams.

 

Clasbiau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da – 30 blynedd o wasanaeth

  • Rheolwr Gorsaf Steven Bowen
  • Rheolwyr Gwylfa Keith Follis, John Samuel a Denzil Wathen
  • Diffoddwyr Tân Anthony Baker, Kevin James, Jeffrey Jones, Tracey Richards a Shaun Simmons

 

Clasbiau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da – 40 blynedd o wasanaeth

  • Dirprwy Prif Swyddog Tân Dewi Rose
  • Rheolwr Gwylfa Keith Follis

 

Tystysgrifau Gwasanaeth hir i Staff Corfforaethol– 20 mlynedd o wasanaeth

  • Simone Hallett, Christopher Lloyd, Zoe Marshall, Lisa Mullan, David Prosser, Jayne Smith a Carys Stubbs.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM, “Mae bob amser yn fraint ac yn bleser dathlu gwasanaeth hir ac ymddygiad da personél. Mae hefyd yn ymwneud â dathlu gwasanaeth hir a ffyddlon ein cydweithwyr proffesiynol corfforaethol hefyd, sydd heb amheuaeth yn darparu gwasanaethau hanfodol. Ar draws Tîm De Cymru mae gan bawb rolau gwahanol ond yr un nodau sy gyda ni. Y nod hwnnw yw gwneud ein cymunedau yn fwy diogel. Llongyfarchiadau a da iawn i bawb ar eich llwyddiannau eithriadol. Yn y digwyddiad clywsom am nifer o weithredoedd rhyfeddol gan aelodau o’r cyhoedd a chydweithwyr o bob rhan o’r Gwasanaeth sydd wedi achub bywydau, cynorthwyo pobl mewn trallod a pherygl – tra ar ddyletswydd a’r tu allan i oriau gwaith. Yr hyn sy’n creu argraff arnaf bob dydd yw ymroddiad, proffesiynoldeb ac ymrwymiad pawb yn Nhîm De Cymru.”