Cynllun Prentisiaeth Newydd i Ddiffoddwyr Tân De Cymru

Firefighter recruitsAm y tro cyntaf, bydd ein hyfforddeion newydd yn cwblhau cynllun prentisiaeth pwrpasol i feithrin eu sgiliau a’u gwybodaeth hanfodol yn ystod eu taith wrth ddod yn ddiffoddwyr tân.

Fel Gwasanaeth rydym yn cydnabod bod rôl diffoddwr tân wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd ac mae erbyn hyn yn cwmpasu cyfrifoldebau addysg, ymgysylltu a lleihau risg ynghyd â’r rôl ymatebol draddodiadol. Yn unol â’n gwaith i ddatblygu hyfforddiant pellach i’n diffoddwyr tân i gwrdd ag anghenion cymunedau De Cymru wrth i’r anghenion hynny ddatblygu’n barhaus, rydym wedi ymuno â Choleg Caerdydd a’r Fro i ddarparu prentisiaeth newydd ar gyfer diffodd tân.

Coleg Caerdydd a’r Fro yw’r darparwr mwyaf ar brentisiaethau yn y wlad ac mae ganddo hanes cyfoethog o ddatblygu rhaglenni prentisiaeth unigryw i gefnogi twf yn y sgiliau sy’n ofynnol gan gyflogwyr, fel Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ar draws y rhanbarth.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys sgiliau hanfodol megis rhifedd a llythrennedd digidol, a fydd yn cael eu cyflwyno ar y safle’r coleg. Bydd yr hyfforddiant yn parhau yn ein Canolfan Hyfforddi a Datblygu arloesol ym Mhorth Caerdydd, sy’n gyfleuster ar y cyd gyda’r cwmni rhyngwladol, Babcock.

Bydd y brentisiaeth yn sicrhau bod yr hyfforddeion newydd mewn sefyllfa dda i ymateb i argyfyngau byw, gan achub bywyd ac eiddo, yn ogystal â diogelu’r amgylchedd. Bydd disgwyl i brentisiaid gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys gweithio’n agos gyda’r gymuned leol i gynyddu lefel eu hymwybyddiaeth o ddiogelwch er mwyn helpu i atal tanau a digwyddiadau eraill rhag digwydd. Bydd prentisiaid yn hyrwyddo diogelwch tân a safonau diogelwch tân yn y gymuned, yn ymwneud â diogelu bywyd ac eiddo rhag tân a pheryglon eraill. Bydd y cwrs yn cynnwys darlithoedd rheolaidd, ymarferion, hyfforddiant ymarferol i ymladdwyr tân gan gynnwys ffitrwydd, driliau ymarfer, diogelwch tân a sgiliau ymarferol, megis gweithdrefnau offer anadlu, hyfforddiant gydag ysgolion, rheoli pibellau dŵr a gweithrediadau’n ymwneud â gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.

Yn dilyn y cwrs, bydd y prentisiaid yn symud i Orsafoedd Tân lle byddant yn parhau â’u datblygiad wrth wasanaethu cymunedau De Cymru. Ar ôl cwblhau’r rhaglen brentisiaeth sy’n para am ddwy flynedd yn llwyddiannus, byddant yn dod yn ddiffoddwyr tân gweithredol cymwys.

Dywedodd Gareth Evans, rheolwr hyfforddiant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Bydd y brentisiaeth ymladd tân newydd hon yn sicrhau bod gan ein hyfforddeion yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau cywir i ddod yn gymwys yn eu rôl. Mae’r rhaglen gyda Choleg Caerdydd a’r Fro wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion diffoddwr tân cyfoes, sydd angen gallu newid o rôl adweithiol gan ymateb i argyfyngau byw, i rôl fwy ataliol sy’n cynnwys addysgu ein cymunedau ar gadw’n ddiogel. ”

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn falch iawn o gael ymuno â’r bartneriaeth hon gyda Gwasanaeth Tân De Cymru, sy’n cynnig gwaith dysgu i’r gwasanaeth rheng flaen hanfodol hwn. Mae’n gyfle cyffrous iawn i ni yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro i wasanaethu ein cymuned ymhellach drwy leihau risg, ac mae’r rhaglen eisoes yn boblogaidd iawn. “