Negeseuon atal boddi hanfodol yn cael eu cyflwyno i bobl ifanc yn Ne Cymru

Mewn partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI),  mae ein Tîm Diogelwch Cymunedol wedi bod yn gweithio i gyflwyno negeseuon achub bywyd diogelwch dŵr ac atal boddi i bobl ifanc yn Ne Cymru.

Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), rydym am i bawb fwynhau’r dŵr yn ddiogel. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw rhai plant yn Ne Cymru yn cael cyngor hanfodol a allai achub bywyd ynghylch bod yn ddiogel yn y dŵr.

I fynd i’r afael â hyn, rydym wedi bod yn gweithio gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) i hyfforddi aelodau o staff i gyflwyno gwybodaeth ynghylch atal achosion o foddi yn ‘Criw craff‘.

Mae heddiw (dydd Mercher 26 Ebrill) yn nodi ein digwyddiad Criw craff atal boddi cyntaf a ddarperir gan GTADC, a gynhaliwyd yng Ngorsaf Gwasanaethau Brys y Barri. Bydd pob plentyn pontio ysgol blwyddyn 6/7 yn Ne Cymru nawr yn cael y cyfle i gael eu haddysgu ar atal boddi.

Arweiniodd y sesiwn gan Rheolwr Gwylfa Dave Vaughan a dywedodd:

“Mae’r sesiynau hyn yn gyfle gwych i rannu negeseuon diogelwch dŵr hanfodol a helpu i addysgu a hysbysu pobl ifanc ar draws De Cymru.

“Rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda’n partneriaid i gyflwyno’r sesiynau hyn a chadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Os ydych chi eisiau helpu neu gefnogi ein hymgyrchoedd a negeseuon diogelwch dŵr, cadwch olwg am #AtalBoddi | #DeallPeryglonDŵr ar gyfryngau cymdeithasol!