DIOLCH I CHI

Hoffai’r Gwasanaethau Tân ac Achub, yr Heddlu ac asiantaethau partner ledled Cymru ddiolch i aelodau’r cyhoedd sydd wedi cysylltu â ni i nodi ac adrodd am y rhai hynny sy’n gyfrifol am gynnau tanau anghyfreithlon yn eu cymunedau. Mae’r wybodaeth a gafwyd wedi bod yn hanfodol i’n galluogi i geisio euogfarnau a nodi’r cyflawnwyr hynny sydd wedi achosi difrod difrifol ac aruthrol i dir a bywyd gwyllt, yn ogystal â chost ddiangen i’n gwasanaethau brys. Mae tanau glaswellt bwriadol yn lleihau ansawdd yr aer, gan achosi problemau anadlu a gwaethygu cyflyrau megis asthma. Yn ystod pandemig Covid-19, mae’n hanfodol cadw at gyngor y Llywodraeth ar ynysu a phellter cymdeithasol. Gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd yn ein cymunedau i frwydro yn erbyn achosion tanau bwriadol!

Ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111 os gwelwch unrhyw un yn cynnau tanau bwriadol.