Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol 2022

Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol 2022

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o fod yn rhan o Raglen Brentisiaethau Cymru, sy’n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i brentisiaid ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith, ac ennill cymhwyster ill dau.  Mae’r cynllun hefyd yn caniatáu i brentisiaid chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddarparu gwasanaeth i’n cymunedau.

 

Alysha

Fy enw i yw Alysha a fi yw’r prentis yn yr adran TGCh.

Yn fras, i ddisgrifio fy rôl byddwn i’n dweud fy mod i’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion cyffredinol yn ymwneud â TGCh o fewn y Gwasanaeth. O ddydd i ddydd bydda i’n ateb galwadau ffôn yn ymwneud â TG a’u cofnodi, yn ogystal â helpu datrys problemau yn adeilad y Pencadlys megis argraffwyr, cynorthwyo mewn ystafelloedd cyfarfod, ac ati. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar y tîm desg gwasanaeth. Mae’r gwaith hwn yn ymwneud yn gyfan gwbl â bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer materion TG a dysgu sut i ddadansoddi materion TG yn ôl y gofyn, yn ogystal â dysgu sut i ddatrys problemau, oni bai bod angen ei drosglwyddo i dîm arall.

Cyflwynais i gais am y brentisiaeth hon gan fy mod i bob amser wedi ymddiddori mewn TGCh. Roeddwn i’n gwybod hyn achos pan oeddwn i yn yr ysgol dyma’r unig bwnc oedd yn dod yn rhwydd iawn i mi a chael canlyniadau da ynddo. Doedd dim syniad gyda fi beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y brifysgol, gan fod cymaint o wahanol lwybrau TGCh y gallwn i fod wedi’u dewis. Doeddwn i ddim yn siŵr pa un roeddwn i’n hoffi digon i’w astudio’n drylwyr am dair blynedd chwaith. Roedd fy ffrindiau i gyd yn mynd i’r brifysgol, ac roeddwn i’n teimlo dan bwysau i ddilyn y llwybr hwnnw gan nad oeddwn i’n credu y byddai unrhyw brentisiaethau’n codi a fyddai o ddiddordeb i mi. Pan welais yr hysbyseb brentisiaeth hon, roedd hi’n edrych yn ddiddorol i mi gan fy mod i’n gwybod y gallwn ganolbwyntio ar gwmpas TGCh ehangach a chael fy nhalu amdano, yn hytrach na dewis llwybr penodol yn y brifysgol. Roedd cynnwys y brentisiaeth o ran peirianneg yn caniatáu i mi ehangu fy sgiliau corfforol drwy ddefnyddio offer yn amlach a bod yn fwy ymarferol, sy’n fantais. I adrodd stori hir yn fyr, os nad ydych yn hollol siŵr beth rydych am ei astudio yn y brifysgol, peidiwch â theimlo dan bwysau i ddilyn y llwybr hwnnw. Gall prentisiaethau roi’r un cymwysterau i chi gyda phrofiad gwaith ar ben hynny!

 

Regan

Fy enw i yw Regan a fi yw’r prentis o fewn Diogelwch Cymunedol.

Mae fy rôl i’n cynnwys gweithio gyda phob tîm o fewn yr adran diogelwch cymunedol i ennill profiad a gwybodaeth mewn cymorth cymunedol.

Gwnes gais am y brentisiaeth hon achos fy mod am gael mwy o brofiad wrth weithio gydag aelodau o’r cyhoedd, ac mae’r cynllun prentisiaeth yn caniatáu i mi weithio tuag at gymwysterau wrth ddysgu mewn amgylchedd gwaith. Doedd dim diddordeb gyda fi mewn mynd i’r brifysgol ac roeddwn i’n credu mai prentisiaeth fyddai’r ffordd orau i mi ddysgu sgiliau newydd ac ennill profiad mewn maes y mae gennyf lawer o ddiddordeb ynddo.

 

Connor

Fy enw i yw Connor a fi yw’r prentis o fewn yr Adran Fflyd.

Mae fy Mhrentisiaeth yn gwrs pedair blynedd sy’n cynnwys pedwar diwrnod ymarferol ym Mhencadlys GTADC ac un diwrnod theori yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Teitl fy Mhrentisiaeth yw “Technegydd Cerbydau Nwyddau Trwm” er bod natur y rôl yn caniatáu i ni weithio ar nifer o gerbydau o fewn y fflyd, o gerbydau trwm i gerbydau ysgafn.

Rwyf wastad wedi mwynhau bod ynghlwm â phopeth, hyd yn oed yn yr ysgol, lle wnes i fwynhau Dylunio a Thechnoleg. Mae cymaint sy’n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig – mae hwn yn gyfle arbennig i mi. Pan oeddwn i’n iau, ro’n i wastad yn cysylltu’r gorsafoedd â’r diffoddwyr tân ac nid yr agweddau gweithdy. Rwyf wedi mwynhau gosod a mecanweithiau erioed ac mae’r hyfforddiant a ddarperir yn rhagorol.

Wedi i mi gwblhau fy Mhrentisiaeth, hoffwn i aros o fewn y Gwasanaeth gan ei fod yn le gwych i weithio ac mae’r bobl sydd o’m hamgylch mor gymwynasgar ar bob adeg.