Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020, rydym yn dangos rhai o’r prentisiaid ymroddedig a gweithgar sy’n gweithio yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar hyn o bryd.

Dyma Sam Howells, sy’n brentis Dechnegydd Cerbydau Modur yn yr Adran Fflyd a Pheirianneg. Mae e wedi cyflawni ychydig dros flwyddyn o’i brentisiaeth pedair blynedd gyda’r Gwasanaeth ac mae e wedi datblygu nifer o sgiliau a phriodoleddau o fewn yr amser hwnnw. Dywedodd, “Roedd hwn yn gam mawr i mi, o ran hyder ac o safbwynt ymarferol hefyd. Fe wnes i beirianneg yn yr ysgol, ond doedd e ddim hanner mor heriol â’r brentisiaeth hon. Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda’r staff profiadol yma sydd wedi dysgu llawer i mi yn ogystal â throsglwyddo llawer o wybodaeth ac awgrymiadau i mi, ac rwy’n gweld hyn oll fuddiol iawn.  ”

Gan ei fod e’n byw ar draws y stryd i Orsaf Dân Pencoed, mae Sam bob amser wedi bod â diddordeb mewn gyrfa gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Ar ôl gweld yr hysbyseb ar gyfer y brentisiaeth ar Facebook, anfonodd Sam y ffurflen at ei fam yn syth a gofyn iddi argraffu ffurflen gais ac mae popeth arall yn hanes. Fel rhan o’r brentisiaeth pedair blynedd, bydd Sam yn ennill cyflog cystadleuol, cymwysterau mewn gwaith corff a pheintio cerbydau yn ogystal â’r cyfle i ennill profiad helaeth gan y staff medrus iawn o fewn yr Adran Fflyd a Pheirianneg.

Pan ofynnwyd iddo am y cyngor y byddai’n ei roi i rywun a oedd am wneud cais am brentisiaeth gyda’r Gwasanaeth, dywedodd yn syml:  “Gwnewch e. Heb os nac oni bai, gwnewch hynny.”

Yn ogystal â’i brentisiaeth amser llawn, mae Sam hefyd yn Ddiffoddwr Tân ar Alwad yng Ngorsaf Dân ac Achub Pencoed, ac mae hyn yn rhywbeth oedd wrth fodd ei galon erioed. Ar ôl pasio ei gwrs cychwynnol pythefnos o hyd ym mis Tachwedd 2019, mae e erbyn hyn yn parhau â’i ddatblygiad yn yr orsaf. Mae pob un ohonom yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n gyffrous i weld Sam yn datblygu’n broffesiynol o fewn ei brentisiaeth ac o fewn ei rôl weithredol fel Diffoddwr Tân ar Alwad ill dau.

*Mae’r llun uwchben o Sam yn sefyll nesaf i’r injan dân gyntaf wnaeth eu hail-chwistrellu*