Mwynhewch Siocled a Heriau’r Pasg ond Arhoswch Gartref!  

Wrth i benwythnos gŵyl banc y Pasg agosáu mae Cyngor Sir Fynwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phartneriaid eraill ledled Gwent yn rhannu un neges syml – arhoswch gartref.

Gydag addewidion o dywydd da a phenwythnos estynedig i bawb ei fwynhau, mae asiantaethau allweddol yn rhybuddio y gallai pobl ystyried mentro allan neu anwybyddu cyngor y Llywodraeth. Mae’n bwysig bod pawb yn gwneud eu rhan ac yn aros gartref tra bod y frwydr yn erbyn y Coronafeirws yn parhau. 

Mae Cyngor Sir Fynwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ynghyd ag asiantaethau allweddol gan gynnwys; Awdurdodau Lleol Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gosod nifer o heriau i’r cyhoedd dros y penwythnos.

Ddydd Gwener y 10fed o Ebrill, mae preswylwyr yn cael eu herio i gymryd rhan mewn ‘Gweithredoedd Da Dydd Gwener y Groglith, ‘diwrnod sy’n dathlu gwaith gwych gwirfoddolwyr, cymunedau a gweithwyr rheng flaen sydd wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i helpu eraill yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gofynnir i bobl rannu clipiau byr o’u gweithredoedd da – gan gynnwys galwad ffôn gyfeillgar neu gynnig nôl bwyd i gymydog. Gofynnir hefyd i weithwyr allweddol anfon eu clipiau i ddangos pam y gall aros gartref wneud gwahaniaeth mawr i’r swyddi pwysig y maent yn eu gwneud.  

Ddydd Llun y 13eg o Ebrill, mae’r pwyslais ar ŵyl y Banc Gartref. Mae pobl yn cael eu herio i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gartref a defnyddio’r amser i fyfyrio ar eu hiechyd a’u lles. Bydd y Cyngor, ynghyd â’r asiantaethau allweddol, yn rhannu awgrymiadau, cyngor a heriau ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd Monlife yn cyflwyno amrywiaeth o fideos ymarfer corff i bobl eu gwneud o gysur eu hystafelloedd byw neu’r ardd. Bydd cydweithwyr o adran hyfforddi’r Cyngor hefyd yn rhannu cyngor ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch chi gartref. Mae plant yn cael eu herio i fod yn greadigol a gwneud rhywbeth a ysbrydolwyd gan y Pasg o’r holl ffoil, cardfwrdd a phlastig dros ben o ddeunydd pecynnu wyau Pasg. Gallai fod yn gwningen sy’n sboncio, wy cyffrous, cyw bach hy. Mae hefyd yn ffordd wych o leihau faint o wastraff sy’n cael ei greu yn ystod Gŵyl y banc. Yn y cyfamser, mae plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau a allai gael eu temtio i fentro allan i weld eu ffrindiau yn cael y dasg o ddysgu’r her ddawns boblogaidd #blindinglights. Felly, dewch o hyd i’ch esgidiau dawnsio a thynnu’r llwch a gwnewch yn siwr bod y paent a’r glud wrth law ar gyfer penwythnos llawn hwyl i’r teulu cyfan.

Wrth wneud sylwadau cyn penwythnos gŵyl y banc, dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Fox: “Bydd penwythnos y Pasg hwn yn sicr yn wahanol iawn i rai’r gorffennol. Er y byddwn fel arfer yn treulio’r amser gydag anwyliaid ac yn mynd allan fan hyn a fan draw, rydym ar adeg dyngedfennol yn ein brwydr yn erbyn y Coronafeirws felly gofynnaf i bawb barhau i helpu i achub bywydau drwy aros gartref. Yr unig ffordd i guro’r clefyd dinistriol hwn yw i bob un ohonom wneud ein rhan. Nid cyngor yw aros adref, ond y gwahaniaeth rhwng bywyd neu farwolaeth felly dim ond ar gyfer siopa hanfodol a’ch ymarfer bob dydd y dylech fod yn mynd allan. Mae aros gartref y penwythnos hwn yn amser gwych i dreulio amser gyda’r plant ac i gymryd rhan yn yr heriau cyffrous hyn. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr holl fideos. ” 

Dywedodd Neil Davies, Rheolwr Grŵp, a Phennaeth Uned Troseddau Tân yn y Cartref Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein criwiau wedi mynychu dros 170 o danau glaswellt a oedd wedi’u cynnau’n fwriadol. Mae’r tanau hyn yn peryglu bywydau ein diffoddwyr tân, yn achosi risg difrifol i’r gymuned ac yn gallu achosi niwed sylweddol i eiddo a’r amgylchedd. I’n helpu ni frwydro yn erbyn y mater hwn, bob wythnos rydym yn gosod her y Prif Swyddog Tân #EinharwyrGartref ac yn ystod penwythnos gŵyl y banc rydym am i chi ddylunio poster a fydd yn ein helpu ni i atal tanau glaswellt bwriadol yn Ne Cymru. Bydd y posteri mwyaf creadigol yn cael eu harddangos yn ein gorsafoedd tân a’u rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. I gyflwyno cais, anfonwch eich ceisiadau’n uniongyrchol atom, tagiwch ni @SWFireandRescue neu anfonwch atom ni yn cyfryngau@decymru-tan.gov.uk. Plant dan 13 oed – gofynnwch i oedolyn cyfrifol eich helpu. Bydd y gystadleuaeth yn cau am 2yh Ddydd Mercher, y 15fed o Ebrill a bydd enillydd yn cael ei gyhoeddi Dydd Iau, yr 16eg o Ebrill. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am danau gwair bwriadol gysylltu â 101 yn syth, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Dylai unrhyw un sy’n gweld tân, neu unrhyw un yn cychwyn tân, ffonio 999 ar unwaith.’  

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym wedi dechrau gweld arwyddion cynnar iawn bod pobl sy’n aros gartref yn gwneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd ac mae ein gwasanaethau GIG yn wynebu pwysau na welwyd eu tebyg o’r blaen – daliwch ati i aros gartref er mwyn atal y Coronafeirws. Yr ydym yn ymdopi â’r galw ar ein gwasanaethau ar hyn o bryd, ond gallai hynny newid os bydd pobl yn anwybyddu canllawiau’r Llywodraeth. Drwy ddilyn y cyngor i aros gartref, byddwch yn diogelu ein gwasanaethau GIG rhag cael eu llethu a bydd llawer o fywydau yn cael eu hachub. Hoffwn apelio ar i bawb yng Ngwent i chwarae eu rhan.”

I bawb sy’n cymryd rhan yn yr heriau, mae croeso i chi rannu eich fideos #DyddGwnerGweithredoeddDa, Ddydd Gwener y Groglith a #bankholistay Ddydd Llun y Pasg.