Mwstachwedd 2023 gyda Gwasanaeth tân ac Achub

Mwstachwedd yw’r brif elusen sy’n helpu i newid dealltwriaeth o iechyd dynion ar raddfa fyd-eang, gan ganolbwyntio’n arbennig ar iechyd meddwl dynion ac atal hunanladdiad, canser y brostad, a chanser y ceilliau.

Ers 2003, mae Mwstachwedd wedi ariannu mwy na 1,250 o brosiectau iechyd dynion ledled y byd. Mae’r elusen yn uno arbenigwyr byd-eang i gydweithio ar brosiectau a fydd yn newid yn sylfaenol y ffordd y mae dynion mewn angen yn cael eu trin a’u cefnogi. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) wedi cefnogi Mwstachwedd am y blynyddoedd diwethaf, am y rhesymau pwysig hyn.

Eleni, cymerodd aelodau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ran yn ymgyrch Mwstachwedd mewn sawl ffordd, i godi arian i faterion iechyd dynion:

  • Roedd gan lawer o aelodau staff fwstashis bendigedig yn ystod y mis – gan ymrwymo i ‘Dachwedd heb eillio’ gyda’r nod o ddangos cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r gwallt y mae llawer o gleifion canser yn ei golli yn ystod triniaeth
  • Cymerodd y rhai nad oedd yn gallu tyfu mwstas ran mewn sawl gweithgaredd a her yn ymwneud â ffitrwydd yn ystod y mis.
  • Gwnaeth Gorsaf 14 Pont-y-clun dringo Pen y Fan yn gwisgo cit llawn – 2,900 troedfedd
  • Gosododd Georgi Ivanov, Cynorthwyydd Ystadegol a Risg, her iddo’i hun i redeg 100 cilomedr ym mis Tachwedd, a’h chwblhau o fewn mis – i godi arian i Fwstachwedd a chefnogi’r achos

Dywedodd John Bolton, Rheolwr Gorsaf:

“Fel llawer o bobl, rwyf wedi gweld ffrindiau a chydweithwyr yn mynd trwy gyfnodau anodd, a o ganlyniad penderfynais i gymryd rhan ym Mwstachwedd, i wneud fy rhan i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion. Yn ogystal â’r mwstas, rwy’n cymryd rhan mewn her fyrfreichiau (‘press ups’) dyddiol gyda phobl o fy nghampfa leol.”

Dywedodd Georgi Ivanov, Cynorthwyydd Ystadegau a Risg:

“Fis Tachwedd eleni, penderfynais i redeg 100 cilomedr i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion trwy elusen Mwstachwedd. Yn ychwanegol i’r her gorfforol, daeth y daith hon â chysondeb a ffitrwydd ychwanegol i fy mywyd. Roedd pob cam yn gam tuag at dorri’r stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl dynion.”

Dywedodd Sam Middle, Diffoddwr Tân o Orsaf 14:

“Ar Ddydd Sadwrn, yr 2il o Ragfyr, bydd y Criw SDdRhA o Bont-y-clun yn dringo Pen y Fan yn eu cit tân llawn, gan obeithio codi arian ac ymwybyddiaeth ynghylch iechyd dynion ill dau. Mae’n achos sy’n agos at fy nghalon, nid yn unig gan fod mwyafrif fy nheulu tân yn ddynion, ond hefyd rwy’ wedi nabod nifer o ddynion a gafodd ddiagnosis o gancr y prostad yn ogystal ag eraill a oedd yn dioddef materion iechyd meddwl megis PTSD ac iselder.

Yn hanesyddol, mae dynion bob amser wedi’u hannog i fod yn “rymus” ac i beidio â dangos emosiwn pan fyddant yn ei chael hi’n anodd, ond mae’r cyflyriad hwn yn hynod o hen ffasiwn ac yn afiach yn fy nhŷb i. Rwy’ am i bob dyn fod yn gyfforddus wrth fynegi’u hemosiynau ac wrth deimlo’n ddiogel wrth ofyn am help pan fyddant o dan y lach. Yn bersonol, dwi’n credu y dylai bod yn agored a gonest ynghylch y ffaith nad ydych yn iawn a’ch bod yn gofyn am help gael ei weld fel cryfder nid gwendid. Wedi dioddef o iselder fy hun yn y gorffennol, dwi’n gwybod beth mae’n cymryd i gydnabod eich bod mewn man tywyll, a’r ymdrech sydd ynghlwm ag adferiad llwyr.

Mae’n bwysig cychwyn sgwrs ynghylch materion iechyd meddwl er mwyn mynd i’r afael y codiad mewn hunanladdiad ymysg dynion, a dwi’n gobeithio bydd ymgyrch Tashwedd yn parhau i fod yn llwyddiannus wrth gyflawni hyn. Os bydd e’n achub bywyd hyd yn oed un dyn, yna bydd e wedi bod yn werth chweil.”

 

Diolch i bawb am eu hymdrechion ym Mwstachwedd eleni, ac i’r sawl a gyfrannodd hefyd. Codwyd cyfanswm o £480 i gefnogi’r achos.

Mae dal amser i roi a gallwch chi wneud hynny trwy ein tudalen, yma.

#TîmDeCymru