Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Mis Hanes Pobl Dduon 2022

Drwy gydol mis Hydref eleni, bydd Tîm De Cymru yn nodi #Mis Hanes Pobl Dduon gyda nifer o weithgareddau, yn ein hymgais i fod yn weithlu amrywiol sy’n cynrychioli pob rhan o’n cymunedau.

Mae Diffoddwr Tân Alex Szekely, o Orsaf 21 Aberbargod, yn cynrychioli rhwydwaith staff du a lleiafrifoedd ethnig o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae wedi trefnu sut y bydd y Gwasanaeth yn dathlu’r mis.

Mae gweithgareddau’r mis hwn yn cynnwys:

  • Proffiliau staff newydd a rhai wedi’u diweddar o bobl o’n cymunedau duon
  • Sesiwn holi ac ateb byw Ddydd Gwener y 14eg o Hydref rhwng 12 ac 1yh lle bydd dau o’n Diffoddwyr Tân yn siarad am eu profiadau o’r rôl o’u safbwynt nhw fel Diffoddwr Tân du. Ymunwch â’r ffrwd fyw yma
  • Arddangosfa yn Diwrnod 999 a gynhelir ym Mae Caerdydd ar y 22ain o Hydref, fydd yn dangos ysbrydoliaeth a straeon ein staff sy’n perthyn i gymuned bobl dduon
  • Digwyddiadau agored i’w cadarnhau, y mae croeso i bawb eu mynychu:
    • Digwyddiad Agored Gorsaf Maendy, Dydd Sadwrn 29 Hydref 1000 – 1200
    • Diogelwch Cymunedol Pafiliwn Grangetown a Digwyddiad Agored, Dydd Sadwrn 29 Hydref 1000 – 1230

Dywedodd Diffoddwr Tân Szekely “Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ffordd o ddathlu’r amrywiaeth a’r gwahanol brofiadau a welir o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub. Rwy’n falch o gynrychioli’r Gwasanaeth a gobeithio y bydd mwy o bobl o’n cymunedau yn ystyried gyrfa gyda ni, wrth i ni ymdrechu i gynrychioli’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu.”