Mae’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol bellach ar y gweill

Mae’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), dan arweiniad y Cadeirydd Fenella Morris CB, ar y gweill erbyn hyn.    

Ar ddydd Iau 18fed Mai 2023 am 10.30yb, fe wnaeth Fenella Morris KC cyflwyno’r Adolygiad Diwylliant yn bersonol, gyda rhai o’i thîm, yn swyddfeydd Blake Morgan, Sgwâr Canolog, Caerdydd gyda sesiwn Holi ac Ateb agored.   

Cafodd y sesiwn ei ffrydio’n fyw a daeth nifer gyfyngedig o bobl yn bersonol.

Gweler y llif-fyw isod 

Croesawyd cwestiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd y tîm yn mynychu llond llaw o leoliadau Gwasanaeth a drefnwyd ymlaen llaw dydd Gwener 19 Mai 2023 a byddant yn trefnu mwy o ymweliadau ymgysylltu wrth iddynt symud ymlaen â’r adolygiad.

Mae’r Tîm Adolygu Diwylliant yn gwahodd aelodau presennol a chyn-aelodau o staff (sydd wedi gadael GTADC o fewn y saith mlynedd diwethaf), asiantaethau partner a chydweithwyr Golau Glas, ac aelodau o’r cyhoedd, i gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol.

Mae’r Tîm Adolygu Diwylliant yn awyddus i glywed gan bawb, boed eu profiadau’n dda, yn ddrwg neu’n ddifater, i fwydo i mewn i’r Adolygiad Diwylliant.

Gallwch gysylltu â’r Tîm Adolygu Diwylliant unrhyw bryd, drwy anfon e-bost at: swfrsreview@gmail.com 

Gwybodaeth Preifatrwydd 

I gael gwybodaeth am sut y bydd yr Adolygiad Diwylliant yn diogelu ac yn prosesu eich gwybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd yr Adolygiad yma. I gael gwybodaeth ynghylch sut a pham y bydd GTADC yn rhannu ac yn datgelu data personol y mae’n ei gadw i’r Adolygiad, gweler Hysbysiad Preifatrwydd GTADC ynghylch rhannu data personol rhwng GTADC a’r Adolygiad yma.