Mae tanau gwyllt bwriadol yn dinistrio 15 hectar o laswelltir ym Mhont-y-pŵl

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ein criwiau wedi mynychu cyfres o danau glaswellt ar draws De Cymru. Mewn rhai achosion mae’r tân wedi lledaenu gan ddinistrio llawer o hectarau o laswelltir a rhoi bywydau mewn perygl.

Ym Mhont-y-pŵl cafodd 15 hectar o laswelltir yng Nghoed Lasgarn ei heffeithio gan danau gwyllt ac roeddent yn parhau i ymledu nes iddynt gael eu diffodd gan ein criwiau’n defnyddio offer arbenigol

Nod Operation Dawns Glaw, tasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, yw lleihau, a lle bo modd, ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein criwiau wedi mynychu dros 2050 o danau gwyllt bwriadol ac mae’r nifer yn codi. Priodolwyd y cynnydd hwn yn rhannol i’r nifer o fesurau cyfyngiadau symud sydd ar waith o ganlyniad i’r pandemig Coronafirws – ac wrth i ni ddechrau blwyddyn arall gyda gwyliau gartref yma yng Nghymru yn debygol o ddominyddu ein gwyliau, mae’r tasglu yn awyddus i sicrhau ein bod i gyd yn gwneud hynny’n ddiogel, gan amddiffyn cefn gwlad gwerthfawr gan gynnwys y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd yr ydym mor falch o’u cael gerllaw.

Mae Uned Troseddau Tân y Gwasanaeth yn gweithio gyda’r tasglu i addysgu ac atal tanau gwyllt trwy dorri llwybrau torri tân i leihau lledaeniad tanau o’r fath.

Mae gosod tanau glaswellt bwriadol yn anghyfrifol ac yn annerbyniol, ond ar adeg lle mae pwysau cynyddol, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd ac osgoi rhoi straen pellach ar wasanaethau brys Cymru ’.

Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth o bosib am danau bwriadol, neu unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Os gwelwch dân, neu unrhyw un yn cynnau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.