Larymau Mwg yn Achub Bywydau – Tân Cartref, Dinas Powys

Y bore yma, Dydd Gwener y 29ain o Fai 2020 cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru alwad yn dilyn larwm mwg yn cael ei actifadu mewn eiddo preswyl yn Murch, Dinas Powys. 

Gweithiodd diffoddwyr tân o Orsaf Penarth a Gorsaf Ganolig Caerdydd i ddiffodd y tân gan ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol. 
Achubwyd un unigolyn o’r eiddo ac aethpwyd â’r unigolyn hwnnw i Ysbyty Treforys. Mae gwaith yn parhau i sicrhau bod yr ardal yn ddiogelu a bydd ymchwiliad tân yn cael ei gynnal i benderfynu beth oedd achos y tân. Hoffem atgoffa’r cyhoedd y dylent gael larymau mwg gweithredol a’u profi’n rheolaidd. Mae larymau mwg yn achub bywydau. 

I gael rhagor o wybodaeth am wiriadau diogelwch yn y cartref ffoniwch 0800 1691234 neu ewch i’n gwefan; decymru-tan.gov.uk