Llys Ynadon Cwmbrân yn gorchymyn lesddaliwr i dalu dros £3,000 wrth

Gorchmynnwyd Mr. Abdul Miah o Misbah Tandoori i dalu’r swm o £3,021 am fethu ymateb i geisiadau am wybodaeth a wnaed gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (ATADC) a oedd yn ymwneud â thramgwyddau diogelwch tân o fewn yr adeilad.

Ym Mehefin 2021, cynhaliodd Swyddogion Diogelwch Tân i Fusnesau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) archwiliad ym Mwyty Tandoori Misbah, 9 Priory Street, Trefynwy, NP25 3BR. Adnabyddodd yr archwiliad ddarpariaethau diogelwch tân annigonol ar y safle a arweiniodd at gyflwyno Hysbysiad Gorfodi o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, gan nodi’r gwaith diwygio angenrheidiol oedd yn ofynnol i ddiogelu’r safle.

Ymgymerwyd ag ymchwiliad gan swyddogion Tîm Cydymffurfiaeth GTADC lle adnabuwyd Mr. Miah fel lesddaliwr yr adeilad. Gydol yr ymchwiliad, cyflwynwyd ceisiadau am wybodaeth a oedd yn ymwneud â darpariaethau diogelwch tân o fewn yr adeilad. Anwybyddwyd y ceisiadau hyn yn barhaus a doedd gan ATADC ddim opsiwn arall ond mynd â’r mater drwy’r llysoedd.

Fel hynny, cyflwynwyd gŵys i Mr Miah fynychu Llys Ynadon Cwmbrân ar y 24ain o Dachwedd 2022. Nododd Mr. Justin Davies o gwmni Hugh James, a oedd yn gweithredu ar ran Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, yr achos yn erbyn y diffynnydd. Plediodd Mr. Miah’n euog i dair trosedd o dan Erthygl 27 o’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ac fe’i dirwywyd cyfanswm o £3,021 gan gynnwys costau.

Gellir fod wedi osgoi’r ddirwy hon pe bai Mr. Miah dim ond wedi ymateb i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru â’r wybodaeth ofynnol. Mae’r ymchwiliad i’r tramgwyddau diogelwch tân dal ar waith.

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Rheolwr Grŵp St.John Towell:

“Ein rôl yw gorfodi deddfwriaeth ddiogelwch tân mewn adeiladau sy’n disgyn o fewn cwmpas y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 a sicrhau fod y safleoedd hyn yn ddiogel. Rydym yn gwneud hyn wrth weithio â busnesau ar draws De Cymru i’w cefnogi hwy i amddiffyn eu busnes rhag perygl. Yn yr achos hwn, aethom o’n ffordd i geisio am wybodaeth sylfaenol i’n galluogi i ddilyn protocolau cyfreithiol.

Barn y llys oedd bod y mater mor ddifrifol y gwnaethant osod dirwy. Fel y gwelwn yn yr achos hwn, priodolwyd y dirwyon a’r costau a dderbyniwyd yn uniongyrchol i’r methiant i ddarparu gwybodaeth. Neges glir yw hon i aelodau’r gymuned fusnes fod angen iddynt ymateb i geisiadau ffurfiol a wnaed gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, ei effaith ar eich busnes a sut all Adran Diogelwch Tân i Fusnesau GTADC gydweithio â’ch busnes, ymwelwch ein Tudalen Mewn Busnes.