Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gludo aelodau ynysig o’r gymuned i ganolfannau brechu.

Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gludo aelodau ynysig o’r gymuned i ganolfannau brechu.

O heddiw ymlaen (y 18fed o Fawrth 2021), mae staff Adran Fflyd a Pheirianneg y Gwasanaeth yn gwirfoddoli i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) drwy’r elusen, Age Connects Morgannwg i gludo aelodau ynysig o’n cymunedau i’w hapwyntiadau brechu.

Bydd dau o’n cerbydau Gwasanaeth yn cael eu defnyddio i yrru’r rhai heb gludiant i’r Canolfannau Brechu Cymunedol mewn gwasanaeth di-gyswllt. Bydd yn ofynnol i wirfoddolwyr wisgo mygydau gydol y daith ac maent wedi cael pecynnau diogelwch i ddiheintio’r cerbydau rhwng teithiau er mwyn cadw eu hunain a’u teithwyr yn ddiogel.

Bydd aelodau o staff ar draws y Gwasanaeth yn cefnogi rolau gwirfoddol ychwanegol i gyflawni dyletswyddau megis dyletswyddau derbynfa, gweinyddu a chyfarfod a chyfarch pobl ar gyfer eu hapwyntiadau ar draws Rhondda Cynon Taf.

Mae llacio’r cyfyngiadau o gyfyngiadau symud ‘Arhoswch Gartref’ i ‘Arhoswch yn Lleol’ ledled Cymru yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu cyfarfod y tu allan, bydd busnesau’n dechrau ailagor cyn bo hir a bydd pobl yn dychwelyd i’r gwaith a bydd plant yn mynd yn ôl i’r ysgol. Disgwylir y bydd ein cefnogaeth yn cynyddu dros yr wythnosau nesaf yn unol â’r newidiadau hyn. Roedd y cais cychwynnol am gymorth gan y Gwasanaeth am gyfnod o dri mis yn dechrau ganol mis Mawrth.

Mae iechyd a diogelwch y rhai sy’n cynorthwyo yn hollbwysig a byddant erbyn hyn yn cael eu rhaglenni i dderbyn eu brechiadau Covid-19. Bydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu yn yr ysbryd o bartneriaeth a chydweithredu sy’n bodoli ar hyn o bryd ac a rennir ar draws teulu’r gwasanaethau brys yng Nghymru. Gyda’n gilydd rydym yn unedig yn ein hymroddiad i fod ar gael i’n cymunedau gan gadw’r bobl rydym yn eu gwasanaethu’n ddiogel.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i fonitro’n ofalus yr holl ganllawiau a chyngor a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â Covid-19.