Gwasanaeth Tân ac Achub yn rhoi wyth peiriant tân i Wcráin

Yn dilyn llwyddiant trosglwyddo offer a cherbydau’r gwasanaeth tân ac achub i’r Wcráin, bydd pumed confoi yn cael ei ddanfon  i ddarparu adnoddau hanfodol o’r DU.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) wedi rhoi wyth peiriant tân ac offer diffoddi tân achub bywyd i Wcráin. Mae 24 o yrwyr o Dde Cymru wedi gwirfoddoli i roi eu hamser a’u harbenigedd i ddosbarthu cit yn gyflym ac yn ddiogel i helpu i gadw pobl Wcráin, sy’n byw mewn amodau annirnadwy, yn ddiogel. Byddant hefyd yn cefnogi dewrder anhygoel ein cydweithwyr gwasanaeth tân.

Dywedodd Garry Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol a’r Dirprwy Bennaeth Tân:

“Pan ofynnom yn y lle cyntaf am yrwyr gwirfoddol, cawsom ein synnu gan y nifer helaeth o bobl oedd eisiau cefnogi’r fenter o bob rhan o’n gwasanaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a wirfoddolodd eu sgiliau yn ddewr a dymunaf daith ddiogel a llwyddiannus i’r rhai sy’n gyrru yn y confoi.”

“Rydym yn falch o allu darparu cit ac offer achub bywyd i’r Wcráin gyda’n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Tân ac Achub o fannau eraill yn y DU.”

“Er y bydd y danfoniad hwn yn feichus yn gorfforol ac yn feddyliol, bydd hefyd yn brofiad gwerth chweil dros ben i’n gwirfoddolwyr a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i weithrediadau tân ac achub yn Wcráin.”

Ers dechrau’r gwrthdaro, mae 24 o ddiffoddwyr tân wedi cael eu lladd ac mae hyd yn oed mwy wedi cael eu hanafu. Mae 100 o orsafoedd tân a 250 o beiriannau tân wedi cael eu dinistrio, a dyna pam mae’r cyfraniadau hyn yn hanfodol i helpu i gadw’r rhai sy’n byw dan amgylchiadau annirnadwy yn ddiogel.

Bydd y confoi yn teithio o’r DU i Wlad Pwyl lle bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gwlad Pwyl yn danfon yr adnoddau hanfodol hyn i ffin Wcráin.