Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n Cefnogi Wythnos Cofrestru Fy Offer 2021

Wrth i ni ddychwelyd i’r normal newydd, yn ystod Wythnos Cofrestru Fy Offer, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n atgoffa aelwydydd i chwilio o gwmpas eu cartrefi a chofrestru’r mwy na 100 miliwn o beiriannau hŷn sydd wedi’u cynnal ac, ambell waith, eu diddanu hwy ar hyd y cyfnod clo.

Datgelodd ymchwil diweddar gan y llywodraeth nad oedd 49% o bobl erioed wedi cofrestru’u cynnyrch, gyda pheiriannau domestig a ddefnyddir mewn tasgau hanfodol megis coginio ac oeri bwyd, golchi dillad a llestri a sugno llwch yn dod i gyfanswm o dros 210 miliwn.

Fel rhan o ymgyrch ‘Mae Tân yn Lladd’, mae GTADC yn annog pobl i wneud eu cartrefi’n ddiogelach drwy gofrestru’u peiriannau ar Cofrestru Fy Offer  i sicrhau’r gellir lleoli pob un o’u peiriannau cartref – yn enwedig y rhai hŷn, anghofiedig – pe bai angen eu trwsio o ran diogelwch ar unrhyw adeg.

Cynrychiolir bron i 60 o frandiau blaenllaw ar y porth, a ddatblygwyd gan Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Peiriannau Domestig (AMDEA), gyda’r rhan fwyaf o’r brandiau’n croesawu manylion o gynnyrch hyd at 12 mlynedd.

Dywedodd Jason Evans, Pennaeth Lleihau Risg ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Er gwaethaf y llacio ar gyfyngiadau, rydym yn dal i dreulio llawer iawn o amser yn ein tai a’n ceginau o hyd. Mae’r ymgyrch hwn yn gyfle arbennig i atgoffa pobl o bwysigrwydd cofrestru pob un o’u peiriannau anhepgorol – yn enwedig y rhai hŷn – sydd wedi gwasanaethu ein teuluoedd yn ystod y cyfnod clo. Ni ddylem fyth gymryd diogelwch ein cartrefi’n ganiataol. Mae’n hanfodol bydd peiriannau’n cael eu gosod a’u defnyddio’n unol â’r cyfarwyddiadau. Cewch ganfod cyngor ar ddefnydd diogel ar draws ein sianelau ac ar  Cofrestru Fy Offer.”

Am fwy o gyngor diogelwch, gwelwch ein Canllaw Diogelwch yn y Cartref  neu ymwelwch â’n Tudalen Diogelwch yn y Cartref.

Adnoddau