Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cefnogi Mis Hanes Pobl Dduon 2023

Drwy gydol yr Hydref hwn, bydd Tîm De Cymru’n nodi #MisHanesPoblDduon gyda nifer o weithgareddau, wrth i ni geisio bod yn weithlu mwy amrywiol sy’n cynrychioli holl bobl ein cymunedau.

Yn dilyn Mis Hanes Pobl Dduon llwyddiannus yn 2022, mae Diffoddwr Tân Alex Szekely o Orsaf 21 Aberbargod yn cynrychioli’r rhwydwaith staff Du a Lleiafrif Ethnig o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac unwaith eto wedi llunio sut bydd y Gwasanaeth yn dathlu’r mis, yn gweithio law yn llaw â Charysse Harper, Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (CACh) y Gwasanaeth.

Mae gweithgareddau’r mis hwn yn cynnwys:

  • Dosbarthu posteri ffigyrau hanesyddol o hanes Pobl Dduon sydd wedi ysbrydoli ein Diffoddwyr Tân i Orsafoedd
  • Diweddaru proffiliau staff cydweithwyr o’n cymunedau Du ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
  • Negeseuon o gefnogaeth gan y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM
  • Llif byw Holi ac Ateb i’w gadarnhau
  • Hyrwyddo ein hymgyrch recriwtio System Ddyletswydd Gyflawn 2023 sydd ar ddod.

Dywedodd Charysse Harper, Arweinydd CACh, “Rydym yn falch o ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon o fewn #TîmDeCymru eto eleni. Rydym yn deall pwysigrwydd cydnabod gwahanol gefndiroedd a phrofiadau ein staff a’r cymunedau rydym yn gwasanaethu. Wrth rannu ein straeon, gobeithiwn wella ein hymgysylltiadau â chymunedau amrywiol ac ysbrydoli pobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli i ystyried gyrfa o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n adlewyrchu holl amrywiaeth ein rhanbarth yn well.”