Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r cyntaf i gyflwyno hyfforddiant Tân Gwyllt achrededig

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yw’r gwasanaeth tân ac achub cyntaf i gyflwyno hyfforddiant achrededig ar gyfer tactegau ymateb i Danau Gwyllt, ar y cyd â Gwobrau SFJ. 

Gan fod y Gwasanaeth wedi mynychu dros 2,000 o danau gwyllt rhwng Mawrth 2022 ac Awst 2023, nododd GTADC fod angen cymwysterau cydnabyddedig i ddarparu ymateb effeithiol i danau gwyllt. 

Cydweithiodd y Tîm Datblygu Gweithredol â Gwobrau SFJ a Rheolwr Grŵp Craig Hope sy’n arbenigo mewn tanau gwyllt i ddatblygu cymwysterau achrededig yn benodol i rolau gwahanol, gan gynnwys Gweithredwyr Tanau Gwyllt a Chynllunwyr Tanau Gwyllt (rheolwyr tactegol). Rhoddodd y tîm flaenoriaeth i ddarparu hyfforddiant hanfodol ar offer arbenigol, megis y torrwr brwsh, ‘i-cutter’, a chwythwr dail, i sicrhau bod yr holl staff gweithredol yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i frwydro yn erbyn tanau gwyllt gyda’r effeithlonrwydd a’r diogelwch mwyaf. 

Dywedodd Rheolwr Gorsaf  Datblygiad Gweithredol, Luke Phillips: 

“Mae tanau gwyllt yn dod yn fwyfwy cyffredin a heriol i’w rheoli, gan greu risgiau sylweddol i gymunedau, ecosystemau a bywyd gwyllt. Felly mae’n hanfodol bod y Gwasanaeth fod ar flaen y gad trwy sicrhau bod ein personél yn hyddysg yng nghymhlethdodau unigryw atal tanau gwyllt. Gan gydnabod yr angen dybryd hwn, mae’r tîm Datblygu Gweithredol, ar y cyd â’n harweinwyr Tanau Gwyllt presennol, Hyfforddwyr ac Aseswyr ar draws y Gwasanaeth wedi cymryd camau rhagweithiol i greu a darparu hyfforddiant tanau gwyllt arbenigol.” 

Mae cysylltiad rhwng Gwobrau Sgiliau er Cyfiawnder eisoes a GTADC, gan fod SFJ wedi cyflwyno nifer o gymwysterau, megis y Diploma Lefel 3 i recriwtiaid Diffoddwyr Tân Ar Alwad a’r System Ddyletswydd Gyflawn, yn ogystal â nifer o gymwysterau hyfforddwyr yn benodol i Fariatrig, GTFf ac Offer Anadlu. Drwy’r bartneriaeth hon, rydym wedi gallu dylunio a gweithredu cymwysterau achrededig wedi’u teilwra’n arbennig i ofynion penodol ymateb i danau gwyllt. 

Dywedodd Craig Hope, Rheolwr Grŵp Hyfforddiant a Datblygiad:  

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi hyfforddi criwiau a swyddogion tactegol ar sut i reoli tanau gwyllt ers blynyddoedd lawer. Gan fod y tymhorau tân ac ymddygiad tân yn newid, penderfynwyd diweddaru’r deunyddiau hyfforddi. Roedd hwn yn gyfle da i weithio gyda Gwobrau SFJ i gael y gyfres o gyrsiau tanau gwyllt achrededig. Mae’r achrediad hwn yn cydnabod ansawdd a hygrededd hyfforddiant ac yn dangos ein hymrwymiad hirdymor i ddysgwyr a chymunedau ill ddau.” 

Mae datblygu cymwysterau yn sicrhau bod pawb yn cael hyfforddiant priodol yn benodol i’w rolau priodol. Mae’r dull hwn yn meithrin ymateb mwy cydlynol a chydgysylltiedig, lle mae pawb yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gallu cydweithio’n ddi-dor yn ystod digwyddiadau o danau gwyllt. 

GTADC yw’r gwasanaeth tân ac achub cyntaf yn y DU i weithredu’r cymwysterau risg-gritigol hyn ac mae sawl gwasanaeth tân ac achub arall yn dilyn, gyda Gwobrau SFJ yn bwriadu creu cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac o bosibl gymhwyster fydd hefyd yn bodloni safonau rhyngwladol, y gellir ei ddefnyddio ledled y byd. 

Dywedodd Kathryn Broadbent, Pennaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Masnachol Gwobrau SFJ:  

“Mae cyfres o danau gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ein hatgoffa’n llwyr o’r perygl y maent yn ei achosi i fywydau, bywoliaeth a’r amgylchedd naturiol. 

“Bydd datblygu hyfforddiant tanau gwyllt arbenigol yn helpu i arfogi mwy a mwy o ddiffoddwyr tân â’r sgiliau atal tân sydd eu hangen i fynd i’r afael â thanau gwyllt a lleihau eu bygythiad i’n cymunedau. 

“Mae Gwobrau SFJ yn falch o gefnogi gwaith arloesol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn y maes hwn, a fydd yn darparu llwyfan i uwchsgilio gwasanaethau tân ac achub ledled y DU.” 

Ynglŷn â Gwobrau SFJ 

Mae Gwobrau SFJ yn Sefydliad Dyfarnu a gydnabyddir ac a reoleiddir yn genedlaethol, yn ddarparwr Gwasanaethau Ardystio Personol, ac yn Sefydliad Asesu Terfynol ar gyfer prentisiaethau (EPAO). Mae eu tîm sy’n arwain y diwydiant yn gweithio i ychwanegu gwerth ac effaith i ddatblygiad sgiliau’r gweithlu, hyblygrwydd a swyddi. Mae Gwobrau SFJ yn cefnogi cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i ddarparu datrysiadau dysgu a datblygu o safon fyd-eang ar draws sefydliadau sector cyhoeddus allweddol gan gynnwys Plismona, Gwasanaethau Tân ac Achub, Diogelwch, Gofal Iechyd, a llawer mwy.