Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dathlu ymrwymiad â’r Cyflog Byw Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn falch o gyhoeddi ei fod wedi’i achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw.

Bydd yr ymrwymiad Cyflog Byw yn gweld pawb sy’n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n derbyn cyflog byw o £10.90, sy’n uwch na lleiafswm y llywodraeth ar gyfer y rhai dros 23 oed, sydd ar hyn o bryd yn golygu £10.42 yr awr.

Mae GTADC wedi’i leoli yng Nghymru, rhanbarth lle mae mwy nag un degfed rhan o holl weithlu (11.8%) yn ennill llai nag sydd angen arnynt i fyw, gydag o gwmpas 144,000 o swyddi’n talu’n llai na’r Cyflog Byw Go Iawn. Er gwaethaf hyn, mae GTADC yn ymrwymedig i dalu’r Cyflog Byw Go Iawn ynghyd â darparu cyflog dyddiol teg am ddiwrnod caled o waith.

Y Cyflog Byw Go Iawn yw’r unig raddfa a gyfrifir yn unol â chostau byw. Mae’n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sy’n dymuno sicrhau fod eu staff yn ennill cyflog y cânt fyw arno, nid dim ond lleiafswm y llywodraeth. Ers 2011, mae’r mudiad Cyflog Byw wedi cyflawni codiad cyflog i dros 450,000 o bobl ac wedi rhoi dros £2 biliwn yn ychwanegol i bocedi gweithwyr cyflog isel.

Dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Pobl, Alison Reed:

“Rwy’n falch bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dod yn gyflogwr Cyflog Byw Go Iawn achrededig yn dilyn penderfyniad cychwynnol ein Hawdurdod Tân ac Achub. Mae ein sefydliad yn dibynnu ar bawb sy’n gweithio yma i sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau gwych i’n cymunedau a chadw De Cymru yn ddiogel.

“Mae’r buddsoddiad yma yn ein pobl yn dangos ein gwerthoedd a’n cred fod pob un o’n pobl yn haeddu cael eu talu graddfa deg am y gwaith maen nhw’n ei wneud. Mae cael yr achrediad hwn yn amlygu ein hymrwymiad i fod yn gyflogwr moesegol ac yn arweinydd ar gyfer newid cadarnhaol yng Nghymru.”

Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwraig y Living Wage Foundation: “Ry’n ni wrth ein bodd fod GTADC wedi ymuno â’r mudiad o dros 12,000 o gyflogwyr cyfrifol ar draws y DU sy’n ymrwymo’n wirfoddol i fynd y tu hwnt i fwyafswm y llywodraeth i sicrhau bydd eu holl staff yn ennill digon i fyw.

“Maen nhw’n ymuno â miloedd o fusnesau bychain yn ogystal ag enwau cyfarwydd fel Burberry, Barclays, Clwb Pêl-droed Everton a llawer mwy. Mae’r busnesau hyn yn cydnabod mai talu’r Cyflog Byw gwirioneddol yw’r marc o fod yn gyflogwr cyfrifol ac maen nhw, fel GTADC, yn credu fod diwrnod caled o waith yn haeddu diwrnod teg o gyflog.”