Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol ar y 23ain o Fawrth 2021

Diwrnod i fyfyrio, galaru a chofio

Ymunwch â ni mewn munud o dawelwch am hanner dydd, Ddydd Mawrth y 23ain o Fawrth.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi diwrnod cenedlaethol i gofio’r sawl a fu farw yn ystod y pandemig, a dangos cefnogaeth i bawb sydd wedi cael profedigaeth ill dau.

Wedi’i arwain gan Marie Curie, sef elusen diwedd oes, a fwriedir ei gynnal Ddydd Mawrth y 23ain o Fawrth – pen-blwydd dyddiad dechrau cyfnod cyntaf cyfyngiadau symud cenedlaethol yn y DU– mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i gefnogi Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol, ynghyd â llu o sefydliadau ac enwogion sy’n cefnogi’r diwrnod.

Amcangyfrifa Marie Curie fod dros dair miliwn o bobl wedi cael profedigaeth ers dechrau’r pandemig, ac eto mae llawer o bobl heb allu ffarwelio â’u hanwyliaid na galaru’n iawn.

Ddiwrnod Myfyrio Cenedlaethol bydd y genedl a’n cymunedau yn cael munud i gofio pawb a fu farw yn ystod y cyfnod hwn gan gefnogi’n teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr sy’n galaru.

I gefnogi’r diwrnod, bydd bathodynnau Cennin Pedr ar gael i staff ar draws holl leoliadau’r Gwasanaeth, a bydd holl gyfraniadau er budd Marie Curie.

Dywedodd David Crews, Arweinydd Iechyd Meddwl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae’r Diwrnod myfyrio Cenedlaethol yn nodi pen-blwydd dyddiad dechrau’r cyfnod cyfyngiadau symud cyntaf. Dengys ystadegau bod dros 3 miliwn o bobl wedi dioddef profedigaeth ers dechrau cyfnod cyntaf y cyfyngiadau symud. Y tu hwnt i’r ystadegau, gyda’r holl achosion amrywiol, mae pob marwolaeth wedi bod yn ddinistriol i’w hanwyliaid. Bydd y Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol yn rhoi munud i’n cymunedau a’n staff i fyfyrio a chofio pob un a gollwyd gennym yn ystod y pandemig a  chyfle i gefnogi ein teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr sy’n galaru. Cymerwch funud i fyfyrio am hanner dydd ar 23 Mawrth am y sawl a fu farw a chymrwch eiliad i gysylltu â rhywun sydd wedi cael profedigaeth.”

Marie Curie warns that without the right support for people who have been bereaved, the devastation that the pandemic has caused will impact the lives of people for generations.

Rhybuddia Marie Curie os na fydd y bobl a dioddefodd profedigaeth, yn cael cefnogaeth briodol, bydd y dinistr y mae’r pandemig wedi’i achosi yn effeithio ar fywydau pobl yn bell i’r dyfodol.

Dywedodd Matthew Reed, Prif Weithredwr Marie Curie: “Fel elusen ddiwedd oes rheng flaen, gwelwn bob dydd y cyfraniad enfawr y mae’r holl wasanaethau brys yn ei wneud i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Hoffem ddiolch i’r holl griwiau tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am eu hymroddiad anhygoel wrth ddiogelu eu cymunedau lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rhaid bod y gwaith hanfodol a wnânt yn eithriadol o galed os ydych hefyd yn wynebu trychinebau personol gyda galar a cholled. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn nodi’r golled enfawr a welsom eleni gan ddangos cefnogaeth i bawb sydd wedi dioddef profedigaeth yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Mae’r Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol ar y 23ain o Fawrth yn rhoi munud i ni fyfyrio, cofio a dathlu bywydau pawb a fu farw, yn ogystal â dangos ein cefnogaeth i deulu, ffrindiau a chydweithwyr sydd mewn profedigaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn – o ganlyniad i Covid ac achosion eraill.”

I ddarganfod mwy am y Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol a sut i gymryd rhan, ewch i www.mariecurie.org.uk/dayofreflection #DiwrnodMyfyrio