Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cael ei gyhoeddi’n Dîm y Flwyddyn

Mae tîm prosiect UKRO Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cael ei gyhoeddi’n Dîm y Flwyddyn yn y Gwobrau Rhagoriaeth y Gwasanaethau Tân a Brys a gynhelir am y pumed tro yn 2018.

Dyfarnwyd y wobr i anrhydeddu camp aruthrol y Gwasanaeth wrth gynnal digwyddiad Her UKRO Caerdydd 2018 ym mis Medi. Arweiniodd y prosiect 12 mis at ddigwyddiad gwych dros bedwar diwrnod gyda 600 o ymladdwyr tân yn cystadlu yn yr heriau Trawma, Dŵr, Datglymu, Rhaff Chwilio ac Achub Trefol, oedd yn dangos y sgiliau a’r technegau achub gorau gan Wasanaethau ledled y DU.

Ystyrir bod y digwyddiad ymysg yr heriau UKRO mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd hyd yn hyn, gyda miloedd o bobl yn heidio i Fae Caerdydd i brofi’r heriau yn ogystal ag ymweld â’r Pentref Diogelwch llawn gweithgarwch yn hyrwyddo negeseuon diogelwch a gwaith dros 90 sefydliad partner.

Gweithiodd ein tîm Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ddiflino i lwyfannu’r digwyddiad, gan ddod â staff ynghyd o bob rhan o Wasanaethau Tân ac Achub De Cymru, UKRO a llawer o asiantaethau partner.

Dywedodd Shaun Moody y Rheolwr Grŵp a Phrif Gydlynydd UKRO Caerdydd 2018: “Mae’n anrhydedd aruthrol i ni dderbyn y wobr hon sy’n cydnabod gwaith gwych y tîm y prosiect i gyd a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb ynn Ngwasanaeth Tân ac Achub de Cymru a weithiodd ynghyd sicrhau bod UKRO Caerdydd 2018 yn gymaint o lwyddiant.”