Eich amddiffyn ers 25 mlynedd…#GTADC25

Fel Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru rydym yn hynod falch o ddathlu 25 mlynedd yn eich cadw’n ddiogel.

Sefydlwyd y Gwasanaeth ym 1996 yn dilyn uno Brigadau Tân De Morgannwg, Morgannwg Ganol a Gwent gynt.

Rydym wedi gweld llawer o newidiadau dros y 25 mlynedd diwethaf, ond yr hyn sy’n gyson yw ein hymroddiad i wasanaethu ein cymunedau a pha mor falch ydym o fod yno i chi, pan fyddwch ein hangen fwyaf.

Dros y misoedd nesaf edrychwn ymlaen at rannu lluniau ac atgofion o’r 25 mlynedd diwethaf yn ogystal â’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

I ddathlu, dywedodd y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM: “Yn ystod y misoedd nesaf bydd staff a diffoddwyr tân, gan gynnwys y sawl sy’n gwasanaethu ac wedi ymddeol, yn dod at ei gilydd i rannu eu hatgofion a’u profiadau am fywyd gyda’r Gwasanaeth dros y degawdau. Mae technoleg wedi datblygu i drawsnewid y ffordd rydym yn gweithio, ond nid yw ein hangerdd a’n hymrwymiad i’ch cadw’n ddiogel wedi newid o gwbl. Rydym yn parhau i anrhydeddu gweledigaeth ein Gwasanaeth a’n gwerthoedd drwy wasanaethu ein cymunedau mewn modd proffesiynol ac ymroddiad o’r safon uchaf. Gyda’n gilydd mae ein hymdeimlad o wasanaeth cymunedol, gwaith caled ac ymrwymiad i’r bobl a wasanaethwn wedi bod yn ddibaid, hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol a chymhleth. Rwy’n hynod falch o’n rhaglenni addysgu ac atal, ein gweithgareddau amddiffyn a’n hymateb gweithredol brys, mae’r hyn a ddarparwn ymysg y ‘gorau yn y byd’ a hoffwn ddiolch i bob aelod unigol o #TimDeCymru am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd.  Hoffwn ddiolch hefyd i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu am y gefnogaeth gyson a gawsom gennych chi, aelodau’r cyhoedd dros y 25 mlynedd diwethaf, ac fe’ch gwahoddaf i ddilyn ein hymgyrch a dathlu’r garreg filltir hon gyda ni drwy rannu eich atgofion, gan ddefnyddio’r hashnod #GTADC25.”