GTADC yn parhau i ymrwymo i’r Rhuban Gwyn yn 2023

Yn dilyn adroddiadau gan gwmni ITV Rhagfyr diwethaf, oedwyd achrediad Rhuban Gwyn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ond mae’r Gwasanaeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w nodau o roi taw ar drais yn erbyn menywod a merched, gyda chynllun gweithredu i chwilio am ail-achrediad. O Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar y 25ain o Dachwedd 2023, bydd y Gwasanaeth yn cymryd rhan mewn 16 diwrnod o weithredu byd eang, y cewch ddilyn ar-lein drwy law ein cyfryngau cymdeithasol a’i wefan.

Thema’r Rhuban Gwyn eleni yw “Rhoi taw ar drais yn erbyn menywod a merched” a fydd yn dechrau pan fyddwn yn #NewidYStori i fenywod a merched wrth gymryd camau ac wrth herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n ymddangos yn ‘ddiniwed’ ac sy’n anfarwoli trais i fenywod a merched.

Mae GTADC yn gweithredu Hafanau Diogel o bob un o’i 47 Gorsaf – yn ail lansio’r fenter yr wythnos hon, gyda botymau 999 wedi’u gosod ar du allan POB Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cynlluniwyd y fenter hon i unrhyw un sydd mewn perygl uniongyrchol, gan gynnwys menywod a merched sy’n cael eu cam-drin neu’u bygwth. Tra bod Hafanau Diogel yn gweithredu’n annibynnol i’r achrediad Rhuban Gwyn, mae’r Gwasanaeth yn ymrwymedig i fod yn rhaff achub i gefnogi dioddefwyr ar draws De Cymru.

Yn Hydref eleni, ail enwyd Uned Trosedd Tân y Gwasanaeth yn Dîm Lleihau Llosgi Bwriadol, i gefnogi dioddefwyr llosgi bwriadol a throseddau tân eraill yn eu cartrefi a lleihau’r stigma i ddioddefwyr trais domestig.

Mae yna Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV). Yn 2022-2023, fe wnaeth 96% o weithlu GTADC gwblhau’r hyfforddiant Grŵp 1.

Mynychodd aelodau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddigwyddiad Rhuban Gwyn yn y Senedd ar y 20fed o Dachwedd

Dywedodd Rheolwr Ardal Chris Hadfield, “Rwy’ wir yn falch o’n hymrwymiad ag ymgyrch ‘Newid y Stori’ y Rhuban Gwyn, sy’n dangos ein hymrwymiad a’r rhan bwysig rydym yn chwarae fel Gwasanaeth Tân ac Achub wrth ddod â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched i ben.

“F’uchelgais yw bod yn fodel rôl gwrywaidd i’r Gwasanaeth Tân ac Achub, ynghyd â gwisgo fy Rhuban Gwyn gyda balchder i atgoffa pawb fod trais yn erbyn menywod mewn unrhyw ffurf yn rhywbeth na ddylai unrhyw un fod yn ddistaw yn ei gylch.

“Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn wedi dod yn ddyddiad pwysig yn ein calendr. Mae’n gyfle i’r Gwasanaeth Tân, ynghyd â’r gymuned ehangach, fynd i’r afael â’r heriau a’r peryglon sy’n wynebu menywod a merched yng nghymdeithas fythol newidiol heddiw.

“Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo diwylliant o barchu a chydraddoldeb ymysg ein staff a’n cymunedau, ac wrth godi ymwybyddiaeth, gall pobl ddysgu sut i ddod yn gynghreiriaid a chodi llais yn erbyn ymddygiad treisgar a sarhaus pan fyddant yn ei weld”.

Mae digwyddiad cinio a dysgu yn cael ei drefnu i staff y Gwasanaeth ar Ragfyr y 6ed, gyda’r gwesteion Lydia Stirling o Undeb Rygbi Cymru; Ruth Dodsworth: y ddarlledwraig o gwmni ITV a ymwelodd â’r Gwasanaeth ar gyfer y Rhuban Gwyn yn 2022; a Johanna Robinson, Ymgynghorydd Annibynnol Cenedlaethol o fewn Llywodraeth Cymru.

Mae’r Adolygiad Annibynnol i Ddiwylliant, a arweiniwyd gan Fenella Morris KC, i’w gyhoeddi cyn diwedd 2023. Bydd yr Adolygiad yn diffinio gorffennol y Gwasanaeth a bydd y modd yr ymatebir i hyn yn llywio dyfodol y Gwasanaeth, fel y cawn wneud ein rhan i #NewidYStori i fenywod a merched ar draws y Gwasanaeth a De Cymru fel rhanbarth ar ei hyd.

Anogwyd cydweithwyr o GTADC i ddod yn Llysgenhadon neu’n Eiriolwyr Rhuban Gwyn, drwy law eu gwefan: https://www.whiteribbon.org.uk/ambassadors-champions

Logo swyddogol Rhuban Gwyn