Diffoddwyr Tân yn Anfon Hwyl Nadoligaidd i Ysbyty Plant Cymru Noah’s Ark

Rydym wrth ein boddau o allu adrodd am ymateb rhagorol gan y gymuned leol i apêl ddiweddar gan ein diffoddwyr tân Gorsaf Aberbargoed. Syniad Diffoddwr Tân Dan Pendry oedd yr apêl yn wreiddiol, ac addawodd Gwylfa Ar Alwad Aberbargoed ddod ag ychydig o hwyl Nadoligaidd i’n ffrindiau ifanc yn Ysbyty Arch Noa i blant eleni a gan wneud apêl i fusnesau yn y gymuned i roi teganau, anrhegion, llyfrau lliwio, pennau a phensiliau.

 

 

 

 

 

 

 

Gyda chymorth tim pel-droed o dan 7 mlwydd oed, Cadetiaid Tân Tredegar a Cyd-Ddiffoddwr Tân Cerrig Wilson o’r Wylfa Las, dechreuodd y criw gasglu llawer o roddion caredig, a derbyniwyd cymaint ohonynt bu’n rhaid dyblu’r cludiant a drefnwyd yn wreiddiol i drosglwyddo’r anrhegion. Roedd aelodau’r criw wrth eu boddau yn gwneud y daith i Ysbyty Arch Noa i Blant yr wythnos ddiwethaf i drosglwyddo’r anrhegion a chawson groeso hyfryd gan bawb. Mae pawb yng Ngorsaf Aberbargoed am ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd anrhegion a theganau ac i’w holl gydweithwyr a’u teuluoedd am eu gwaith caled. Mae eich cefnogaeth wedi bod yn anhygoel ac edrychwn ymlaen at allu cynnal hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.