Efelychiad o Wrthdrawiad Traffig Ffordd Prifysgol Caerdydd

Ar Ddydd Llun yr 22ain o Fai 2023, cymrodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) rhan mewn efelychiad o wrthdrawiad traffig ffordd (GTFf) mawr a drefnwyd law yn llaw â Phrifysgol Caerdydd ac a oedd hefyd yn sesiwn anwytho meddygaeth cyn-ysbyty i dros 300 o fyfyrwyr meddygol ail flwyddyn Prifysgol Caerdydd. Digwyddodd yr efelychiad yn y cnawd ar Gampws Parc Gorllewinol y Mynydd Bychan ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyda 30,000 o bobl yn cael eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd y DU yn 2022, mae hyfforddiant GTFf yn gydran hanfodol o reolaeth ddiogel ac effeithiol anafusion. Er bod nifer o wasanaethau yn ymgymryd â hyfforddiant aml-asiantaeth, mae’r dinoethiad hwn i’r amgylchedd meddygaeth brys cyn-ysbyty (PHEM) cymhleth yn absennol neu’n gyfyngedig ym mwyafrif cyrsiau coleg traddodiadol i ddarpar weithwyr gofal iechyd.

Fel rhan o hyfforddiant meddygol i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd (PC), cynhaliodd GTADC efelychiad undydd yn cynnwys dros 100 o bersonél PC, GTADC, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), Heddlu De Cymru (HDC), Cyd-reoli Tân (CRT) a Medserve (BASICS). Gan ddefnyddio ystod eang o arbenigedd a sgiliau o fewn y tïm, sgriptiwyd pob senario’n ofalus i ddarparu golygfa gywir, gyda’r llanastr, mecanwaith a phatrwm anafiadau sy’n briodol i anafusion. Fe wnaeth y gofynion hanfodol hyn helpu darparu templed i ddylunio senarios oedd yn realistig, yn feddygol gymhleth ac yn weledol effeithiol.

 

Dywedodd Richie Matthew, Rheolwr Gwylfa Adran Hyfforddi GTADC:

“Dyma gyfle hyfforddi a datblygu a rennir ardderchog gyda phrofiad dysgu heb ei debyg â Chriwiau Gweithredol (Gorsafoedd Tân ac Achub Trelái a Chanol Caerdydd), CRT, HDC, WAST, Medserve a Phrifysgol Caerdydd.  Yr amser arferol ar gyfer y maint hwn o ryngweithio rhwng asiantaethau yw ar ochr y ffordd yn ystod digwyddiad byw, felly roedd cymryd y cyfle hwn i arddangos ein dull aml-asiantaeth GTFf i 350 o ddarpar Feddygon y wlad yn fraint i fod yn rhan ohono.  Yn enwedig i ddangos ein gweithle iddynt y tu allan i gyfyngiadau safle clinigol ac arddangos siwrnai’r claf o Ochr y Ffordd hyd Adferiad.”

 

Mae’r efelychiadau hyn yn agor y posibilrwydd o gynhyrchu digwyddiadau asesu addysgu a hyfforddi ‘traws asiantaeth’ i hyrwyddo dealltwriaeth rhyngasiantaeth o ofal i gleifion. Gyda chynnydd yn nifer yr ymyriadau meddygol cymhleth ar ochr y ffordd, does bosib bydd cynnydd mewn dinoethiadau i bob ymarferydd brys yn dyrchafu eu heffeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddarparu’r canlyniadau gorau posib i gleifion. Mae GTADC yn gobeithio bydd y datblygiadau hyn yn ysgogi ysgolion meddygol a darparwyr gwasanaethau brys rhanbarthol eraill i ystyried mabwysiadu’r dull hwn i hyrwyddo a dyrchafu darpariaeth gofal cyn-ysbyty.

 

Dywedodd Dr Tim Johnson, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen o Ganolfan Addysg Feddygol Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd:

“Fel ysgol feddygol, mae gennym ddyletswydd i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer pob posibiliad ‘gweision cyhoeddus’ yn y ffordd orau. Mae canlyniadau i anafusion yn gwella’n aruthrol gydag ymyrraeth gynnar ac effeithiol ac wrth ddarparu profiad cyn-ysbyty i’n holl fyfyrwyr israddedig fydd yn rhoi hyder iddynt i weithredu’n briodol pan maent ar safle unrhyw ddigwyddiad trawmatig am y tro cyntaf. Mae darparu cyfle i dystio a chwarae rôl mewn senario GTFf cynhwysfawr a realistig wedi bod yn amhrisiadwy i’n myfyrwyr ac wedi ysbrydoli nifer o’n hyfforddeion iau i ystyried meddygaeth cyn-ysbyty fel gyrfa.

Bydd cael eu dinoethi i gyfathrebu diogel ac effeithiol gan staff pob un o’r gwasanaethau brys ar y dydd, mewn amgylchedd o dyndra uchel, wir yn gwasgaru meysydd arfer dda, sy’n arwain at fwy o gyfleoedd dysgu rhyng-disgyblaeth wrth i’n myfyrwyr ddatblygu ar hyd eu rhaglen MBBCh yng Nghaerdydd.”

 

Canlyniadau’r efelychiad

Fe wnaeth dadansoddiad thematig o arolwg werthuso’r 75 o ymatebwyr ddatgelu fod ymatebwyr wedi canfod natur realistig/cignoeth y senarios, yr arddangosfa o waith tîm aml-asiantaeth a’r mwynhad wrth gyfranogi o’r pwys mwyaf wrth ddarparu canlyniadau’r addysgu.

Hefyd, fe wnaeth yr arolwg ddatgelu ba mor wybodus oedd yr hyfforddiant a phwysigrwydd y lefel uchel o drefn ac amseru a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

 

Dywedodd Alessia Mahoney, myfyrwraig feddygol israddedig:

“Ro’n i’n teithio adref heibio Canol Caerdydd pan welais i ddamwain car. Er mod i’n gwybod mai dim ond myfyrwraig feddygol trydedd flwyddyn oeddwn, er hyn, des i allan o’r car. Roedd cyhoeddi i bawb ar y safle fy mod i’n fyfyrwraig feddygol yn teimlo’n ddoniol ar y cychwyn, ac eto, wrth weld y dyrfa o bobl a oedd wedi ymgasglu yn gwahanu ar unwaith,  roedd e’n teimlo’n fygythiol iawn. Yn syth, ro’n i’n gallu helpu wrth asesu’r perygl, gwirio’r anafusion a dyrannu rolau i’r gwylwyr. Roedd hi’n glir fod hyd yn oed cychwyn wrth ofyn am enw’r claf a dweud eich enw chi wrthynt yn eich rhoi yn y fath le sy’n llawn ymddiriedaeth, gyda’r anafusion yn teimlo’n gyfforddus i ymddiried ynoch. Roedd e mor hyfryd gweld sut ddaeth cynifer o bobl ynghyd i geisio bod yn rhan o’r cymorth.

Galla’ i ddim diolch digon i chi am y profiad ddarparodd y digwyddiad Gwrthdrawiad Traffig ar y Ffyrdd i ni gyda nid yn unig cael gwybod beth i’w wneud, ond hefyd i fod yn ymwybodol o’r hyn sydd i’w ddisgwyl. Fe wnaeth camu o’r car yn beth llai brawychus.”

 

Dywedodd Uwch Barafeddyg WAST, Will Hedges:

“Ges i alwad ffôn ar fy ffordd i’r gwaith neithiwr gan un o’r parafeddygon a fynychodd datglymiad GTFf prynhawn ddoe, lle’r oedd y gyrrwr wedi dioddef anafiadau difrifol niferus. Meddai fod cymryd rhan yn yr efelychiad ym Mhrifysgol Caerdydd yn golygu ei fod yn teimlo’n hyderus wrth asesu a rheoli’r claf a pha mor werthfawr roedd e’n teimlo y bu’r hyfforddiant. Dywedodd wnaeth e gymryd tipyn o wersi ohono a oedd yn gallu gweithredu wrth ymarfer ar leoliad y safle ac roedd yn dymuno diolch i bawb oedd ynghlwm â threfnu’r diwrnod.”

 

I wylio’r fideo a grëwyd o’r Digwyddiad Efelychu Gwrthdrawiad Traffig Ffyrdd (GTFf), cliciwch yma.