Diwrnod Atal Boddi y Byd 2023

Cynhelir Diwrnod Atal Boddi y Byd yn flynyddol ar 25 Gorffennaf i dynnu sylw at effaith boddi ar deuluoedd a chymunedau ac i rannu cyngor ac arweiniad achub bywyd. 

Eleni, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal Diwrnod Ymwybyddiaeth Diogelwch Dŵr ar Forglawdd Bae Caerdydd ar Ddiwrnod Atal y Byd i addysgu’r cyhoedd ar sut i atal boddi. 

Cynhelir y digwyddiad ar y cyd â Gwylwyr y Glannau, yr RNLI a Heddlu De Cymru. 

 

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Atal Boddi y Byd ar gael yma. 

  

Isod mae ystadegau allweddol a ddarparwyd gan WAID Diogelwch Dŵr Cymru ynghylch Adroddiad Marwolaethau Boddi Cymru 2022: 

  • Bu farw pedwar o bobl o dan 20 oed mewn boddi damweiniol yng Nghymru yn 2022 – y nifer uchaf ers i ddata cymaradwy ddod ar gael o Gronfa Ddata Digwyddiadau Dŵr y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol (WAID) yn 2015 
  • Bu 22 o farwolaethau damweiniol 
  • Roedd 91% o farwolaethau damweiniol yn ddynion 
  • Dynion 10 -19 oedd y grŵp uchaf ar gyfer marwolaethau damweiniol 
  • Roedd gweithgareddau hamdden yn cyfrif am 72% o farwolaethau damweiniol 
  • Nid oedd gan 28% o bobl unrhyw fwriad i fynd i mewn i’r dŵr, megis y rhai oedd yn cerdded, gydag achosion yn cynnwys llithro, baglu a chwympo, cael eu torri i ffwrdd gan y llanw, neu eu hysgubo i mewn gan donnau 
  • Digwyddodd 46% o farwolaethau trwy foddi yng Nghymru yn ystod misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst 

Bydd Diogelwch Dŵr Cymru yn parhau i weithio i leihau achosion o foddi ledled y wlad, a thrwy ddilyn y nodau a nodir yn Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026, gallwn oll helpu pobl sy’n ymweld â Chymru ac sy’n byw yng Nghymru i fod yn fwy diogel. 

 

Mewn argyfwng, dylech: 

  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub os ydych yn fewndirol neu Gwylwyr y Glannau os ar yr arfordir 
  • Gwaeddwch ar y person “Nofiwch i mi” 
  • Taflwch rywbeth iddyn nhw i’w helpu i gadw uwchben yr wyneb 
  • Cyrhaeddwch os yn bosibl i’w helpu 
  • Peidiwch â mynd i’r dŵr, gallwch chi ddod yn anafedig arall 
  • Cadwch lygad arnyn nhw a chasglwch wybodaeth ar gyfer y gwasanaethau brys 
  • Cariwch fodd i alw am help 
  • Os gwelwch rywun y credwch ei fod yn bwriadu niweidio ei hun, ffoniwch 999 

Am fwy o wybodaeth am Ddiogelwch Dŵr, cliciwch yma i weld ein tudalen. 

 

Os ydych chi eisiau helpu neu gefnogi’r fenter, cadwch olwg am #AtalBoddi a #ParchwchYDŵr ar gyfryngau cymdeithasol!