Digwyddiad: Tân masnachol yn y Gilfach

Am oddeutu 6:52yb ar Ddydd Mercher y 1af o Fehefin 2022, cawsom adroddiadau o dân mewn eiddo masnachol ger ‘ Bargoed Gilfach Welfare Ground’ yn Gilfach.

Mae nifer o griwiau o Orsafoedd Tân ac Achub ar draws De Cymru, gan gynnwys Aberbargod, Pontypridd a Chaerffili, yn bresennol ar hyn o bryd.

Mae criwiau’n defnyddio offer ac adnoddau arbenigol i daclo’r tân.

Mae ffyrdd ar gau ac rydym yn cynghori aelodau’r cyhoedd i osgoi’r ardal a chadw ffenestri a drysau ar gau oherwydd y swm o fwg yn yr ardal.

Mae’r digwyddiad yma yn gyfredol.