Digwyddiad Pen-y-bont ar Ogwr 200124

Diweddariad digwyddiad 10:35, 20 Ionawr 2024

Mynychodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), ynghyd â Heddlu De Cymru a Thîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (HART), ddigwyddiad yn Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr neithiwr am tua 20.30 o’r gloch.

Ar ôl cyrraedd, roedd criwiau yn wynebu tân datblygedig mewn uned fasnachol sylweddol. Mynychodd peiriannau a chriwiau lluosog a bu’r Ymladdwyr Tân yn gweithio’n ddiflino drwy’r nos i ddod â’r tân dan reolaeth am tua 08:00 o’r gloch y bore yma.

Mae adnoddau wedi’u cwtogi i Llwyfan Ysgol Awyrol a dwy Ysgol Ddŵr. Mae criwiau’n aros yn y lleoliad a chynghorir y cyhoedd i osgoi’r ardal nes bod yr holl gordenau wedi’u codi. Hoffai GTADC ddiolch i’r gymuned leol a’n partneriaid golau glas am ddod â’r digwyddiad hwn i ben yn ddiogel.

Rheolwr Grŵp J Treherne