DIGWYDDIAD – Park Place, Caerdydd (09/05/2023)

Am oddeutu 11:13yb ddydd Mawrth 9 Mai 2023, cawsom adroddiadau am ollyngiad cemegol ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd ar Blas y Parc, Caerdydd.

Mae criwiau lluosog o orsafoedd ar draws De Cymru yn bresennol ar hyn o bryd, a chydweithwyr yn y gwasanaethau brys ac asiantaethau partner.

Mae hwn yn ddigwyddiad cyfyngedig ac mae’r adeilad wedi’i wagio a’i gau dros dro.

Mae’r ffordd ar gau rhwng Museum Place a Cathays Terrace. Cynghorir modurwyr i osgoi’r ardal a ddefnyddio llwybrau amgen lle bo modd.

Derbyniwyd neges stopio am oddeutu 4:08pm.