Diffoddwyr Tân o’r Barri yn gwneud her y Tri Chopa

Bydd grŵp o ddiffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’u cydweithwyr yn y gwasanaethau brys lleol yn ymgymryd â Her Tri Chopa Cymru.

O fewn dim ond 15 awr neu lai, mae’r grŵp yn anelu at ddringo’r Wyddfa yn y Gogledd, Cadair Idris yn y Canolbarth a Phen-y-Fan yn y De. Bydd y criw yn cychwyn ar y 15fed o gyda pharafeddygon o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac aelodau o Awdurdod Lleol y Barri a Gwylwyr y Glannau’r Barri.

Bydd y grŵp a elwir yn ‘The Peaky Climbers’ yn codi arian ar gyfer tair elusen a ddewiswyd; Elusen y Diffoddwyr Tân,  – Elusen Staff Ambiwlans a Mind ym Mro Morgannwg. Mae Elusen y Diffoddwyr Tân a TASC yn darparu cymorth a thriniaeth hanfodol o fewn eu priod Wasanaethau i staff sy’n dioddef gan anafiadau corfforol a phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i’w gwaith. Mae Mind ym Mro Morgannwg yn elusen a leolir yn y Barri. Mae’r elusen hon yn gysylltiedig â Mind ond maent yn ymroddedig i helpu pobl yn fwy lleol. Mae gan bob aelod o’r tîm anwyliaid a chydweithwyr sy wedi cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl yn ystod eu hoes. Mae’r elusen yn gofalu am, yn cefnogi ac yn darparu triniaeth ac arweiniad i’r sawl sy’n dioddef.

Yn ddiweddar mae’r tîm wedi llwyddo gwneud Her Genedlaethol y Tri Chopa o fewn 24 awr yn ogystal â her beicio ymarfer corff a gynhaliwyd yn Asda yn y Barri gan godi dros £4,000 hyd yn hyn. O ran yr her ddiweddaraf hon, eu nod yw codi dros £6,000.

Dywedodd Mark Potter, Rheolwr Criw Gorsaf y Barri, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rydym yn falch o ymgymryd â her arall i godi arian ar gyfer ein tair elusen a ddewiswyd. Mae’r tri achos yn agos iawn at ein calonnau gan eu bod yn darparu triniaeth, gofal a chymorth hanfodol i’r gwasanaethau brys a’n cymunedau. Os gallwch ein cefnogi, ewch i’n tudalen codi arian a’i rhannu.”

I ddangos eich cefnogaeth, ewch i: https://uk.virginmoneygiving.com/BarryEmergencyServiceStationRamblers