Cyfarwyddwr cwmni yn cael ei orchymyn i dalu dros £2,000 gan Ynadon Merthyr Tudful

Gorchmynnwyd Mr. Alireza Ghaibi, o ‘Dragon Pizza’, i dalu’r swm o £2,450 am fethu ag ymateb i geisiadau gwybodaeth a wnaed gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (ATADC) yn ymwneud ag achosion o dorri deddfwriaeth ddiogelwch tân yn yr eiddo.

Ym mis Mawrth 2021, cynhaliodd Swyddogion Diogelwch Rhag Tân i Fusnesau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) arolygiad yn Dragon Pizza 10 Stryd Fawr Pontypridd a lle’r oedd Mr Ghaibi  yn gyfarwyddwr y cwmni. Canfu’r archwiliad ddarpariaethau diogelwch tân annigonol yn yr eiddo ac arweiniodd hyn at gyhoeddi Hysbysiad Gorfodi o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn manylu ar y gwaith adfer angenrheidiol i wneud y safle’n ddiogel.

Cynhaliwyd ymchwiliad gan swyddogion tîm cydymffurfio GTADC lle nodwyd mai Mr Ghaibi oedd Cyfarwyddwr Cwmni Dragon Pizza, sef y cwmni a oedd yn gyflogwr y safle. Drwy gydol yr ymchwiliad gwnaed ceisiadau am wybodaeth yn ymwneud â darpariaethau diogelwch tân yn y safle. Anwybyddwyd y ceisiadau hyn yn barhaus a’r unig ddewis oedd gan ATADC oedd mynd â’r mater i’r llys.

Yn dilyn hynny derbyniodd Mr Ghaibi gwŷs i fynychu Llys Ynadon Merthyr Tudful, ar y 10fed o Awst 2022. Cyflwynodd Mr Justin Davies, Hugh James, Caerdydd, oedd yn gweithredu ar ran Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, yr achos yn erbyn y diffynnydd Mr. Ghaibi, a gafwyd yn euog o dair trosedd o dan Erthygl 27 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 gyda dirwy o £2,450 gan gynnwys costau.

Gellid bod wedi osgoi’r ddirwy hon pe byddai Mr Ghaibi wedi ymateb i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyda’r wybodaeth ofynnol. Mae’r ymchwiliad i’r troseddau diogelwch tân yn parhau.

Dywedodd St. John Towell, Pennaeth Rheolwr Grŵp Adran Diogelwch Tân i Fusnesau, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Ein rôl ni yw gorfodi deddfwriaeth diogelwch tân mewn eiddo sy’n dod o fewn cwmpas Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 a sicrhau bod yr adeiladau hyn yn ddiogel. Gwnawn hyn drwy weithio gyda busnesau ar draws De Cymru i’w cefnogi i ddiogelu eu busnes rhag risg. Yn yr achos hwn, aethom i gryn drafferth i gael hyd i’r wybodaeth sylfaenol i’n galluogi i ddilyn protocolau cyfreithiol.

“Gan fod y llys yn ystyried bod y mater hwn mor ddifrifol gafwyd y diffynnydd yn euog a gosodwyd y ddirwy. Fel y gallwch weld yn yr achos hwn, mae’r dirwyon a’r costau a dderbyniwyd wedi’u priodoli i fethiant i ddarparu gwybodaeth yn unig. Mae hyn yn neges glir i aelodau’r gymuned fusnes bod angen iddynt ymateb i geisiadau ffurfiol  gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.”

I gael rhagor o wybodaeth am Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, ei effaith ar eich busnes a sut y gall adran Diogelwch Tân i Fusnesau GTADC weithio gyda’ch busnes chi, ewch i https://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-a-lles/mewn-busnes/