Cadw busnesau yn Ne Cymru yn ddiogel: Wythnos Ddiogelwch Busnes, 10fed – 16eg o Fedi

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnig cyngor diogelwch tân i fusnesau fel rhan o Wythnos Diogelwch Busnes y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Tân (CCPT) 2018. Cynhelir yr ymgyrch yn rhedeg o’r 10fed i’r 16eg o Fedi a’i nod yw darparu gwybodaeth a chyngor i’r rheini sy’n gyfrifol am fusnesau ac adeiladau cyhoeddus i leihau nifer y digwyddiadau tân a galwadau ffug yn y gweithle, gan fod y ddau yn effeithio ar ddiogelwch a chynhyrchiant busnesau.

Mae’r wythnos yn annog yr holl fusnesau i wirio eu bod wedi cymryd y camau sy’n ofynnol i ddiogelu eu busnes a’u weithwyr rhag tân yn ôl y gyfraith. Rhoddir cyngor hefyd ar atal ymosodiadau tanau bwriadol, lleihau galwadau ffug ac, os oes angen, cyngor diogelwch tân ar gyfer safleoedd sydd â lle i aros dros nos. Gall y cyfnod cyn y Nadolig fod yn amser prysur i fusnesau felly mae’r CCPT yn gofyn i bobl achub ar y cyfle nawr i adolygu asesiadau risg tân a chynlluniau dianc wrth iddynt baratoi ar gyfer y Nadolig gan y byddant o bosib yn cael stoc ychwanegol a staff newydd neu dymhorol. Mae ystadegau yn dangos bod 19,410 o danau wedi digwydd mewn busnesau yn y DU yn ystod 2016-17, gyda thua 30% (5,518) o’r rhain yn cael eu gosod yn fwriadol.

Dywedodd Mark Hardingham, Cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn a Diogelu busnes CCPT: “Gall tân gael effaith ddinistriol ar fusnesau bach a chanolig. Dyna pam mae’r CCPT yn ymrwymedig i’w gwneud yn ymwybodol y gall gwasanaethau tân eu helpu a’u cynghori ar leihau eu risg o dân.”

“Rydym yn eu hannog i gysylltu â’u gwasanaeth tân lleol ac i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael iddynt fel eu bod yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi’r DU a’r gymuned leol mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy.”

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn hyrwyddo negeseuon diogelwch drwy’r wythnos, yn ymgysylltu â busnesau lleol ac yn mynychu digwyddiadau busnes bach fel rhan o’r wythnos. Dilynwch @SWFRSBusinessFS neu ewch i https://www.southwales-fire.gov.uk/Your-Safety-Wellbeing/in-business/am gyngor a gwybodaeth.