Argymhellion ar gyfer Cadw Gwair

Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru dynnu sylw at y materion Diogelwch Tân canlynol y gellir dod ar eu traws lle mae gwair yn cael ei gadw a sut y gellir lleihau’r risg o dân.

Yn rhyfedd iawn, mae gwair gwlyb yn fwy tebygol i achosi tân hylosgi digymell nag y mae gwair sych. Os yw’r gwair yn cael ei roi mewn ysgubor neu das â mwy na thua 22 y cant o leithder, mae’r gwair yn colli ansawdd o ran porthiant, yn ogystal â bod yn fwy tebygol i losgi’n ddigymell.

Gall adweithiau cemegol ddigwydd mewn tesi gwair â llawer o leithder. Mae gwair yn ynysydd, felly po fwyaf yw’r das, y lleiaf o oeri a geir ynddi i wrthbwyso’r gwres.

Pan fydd tymheredd mewnol gwair yn codi’n uwch na 130 gradd Fahrenheit (55 gradd Celsius), mae adwaith cemegol yn dechrau cynhyrchu nwy fflamadwy a all gael ei gynnau os bydd y tymheredd yn codi digon.

Mae tanau gwair yn digwydd yn gyffredinol o fewn chwe wythnos ar ôl byrnu. Mae cynhesu bob amser yn digwydd mewn gwair sydd â mwy na 15% o leithder, ond yn gyffredinol mae’n cyrraedd ei uchafbwynt rhwng 125 a 130 gradd Fahrenheit, o fewn tri i saith diwrnod, gyda risg bach iawn o losgi neu golli ansawdd porthiant. Mae’r tymheredd o fewn y das wedyn yn gostwng i lefelau diogel yn ystod y 15 i 60 diwrnod nesaf, gan ddibynnu ar ddwysedd y bêls a’r das, y tymheredd a’r lleithder amgylchynol, a’r glaw a amsugnwyd gan y gwair

Er mwyn osgoi tanau gwair, ni ddylai bêls bach, hirsgwar fod â mwy na 18 i 22 y cant o leithder, a ni ddylai bêls crwn neu hirsgwar mawr fod â mwy na 16 i 18 y cant o leithder er mwyn eu storio’n ddiogel.

Hefyd, dylech archwilio’ch gwair yn gyson. Os byddwch yn synhwyro ychydig o arogl caramel neu arogl llwydo sy’n wahanol i’r arfer, mae’n debyg bod eich gwair yn gynhesu. Erbyn hyn, maen rhy hwyr i brofi’r lleithder, a bydd angen i chi barhau i fonitro tymheredd y gwair.

Beth ddylech chi wneud os ydych chi’n amau bod eich gwair yn cynhesu?

Gellir monitro’r tymheredd yn gywir drwy roi stiliwr syml i mewn i’r das wair. Gallwch wneud stiliwr o ddarn o bibell neu diwb trydan sy’n mesur 10 troedfedd o hyd. Miniwch y bibell neu sgriwiwch hoelbren pigfain i un pen, yna driliwch nifer o dyllau sy’n mesur 1/4-modfedd ar draws yn y tiwb, ychydig uwchben yr hoelbren. Rhowch y stiliwr i’r das wair a gollyngwch thermomedr ar ben llinyn i mewn i’r das. Dylid gadael y thermomedr am 10 munud mewn sawl rhan o’r pentwr er mwyn sicrhau darlleniad cywir.

Gwyliwch am y tymereddau canlynol:

  • 150 gradd Fahrenheit (65 gradd Celsius) yw dechrau’r parth perygl. Ar ôl y pwynt hwn, gwiriwch y tymheredd bob dydd.
  • Mae 160 gradd Fahrenheit (70 gradd Celsius) yn beryglus. Mesurwch y tymheredd bob pedair awr ac archwiliwch y das.
  • Erbyn cyrraedd 175 gradd Farenheit (80 gradd Celsius), ffoniwch yr adran dân. Yn y cyfamser, taflwch ddŵr dros y gwair a symudwch y gwair o’r ysgubor neu tynnwch y das yn rhydd fel ei bod yn bell o’r adeiladau neu wair sych arall.
  • Erbyn cyrraedd 185 gradd (85 gradd Celsius), gellir disgwyl bydd mannau a phocedi poeth. Bydd fflamau’n debygol o ddatblygu pan ddaw gwair sy’n cynhesu mewn cysylltiad â’r aer.
  • Mae 212 gradd (100 gradd Celsius) yn gritigol. Mae tymheredd yn codi’n gyflym uwchben y pwynt hwn a bydd gwair bron yn sicr i gynnau.