Adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos gostyngiad o 70% yn y nifer o brif danau yn Ne Cymru

Adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos gostyngiad o 70% yn y nifer o brif danau yn Ne Cymru

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hystadegau digwyddiadau tân ac achub: adroddiad Ebrill 2022 i Fawrth 2023, sy’n cynnwys dadansoddiad o’r digwyddiadau a fynychwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae’r ystadegau, sy’n dod o System Cofnodi Digwyddiadau (IRS) y Swyddfa Gartref, yn cynnwys gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, marwolaethau sy’n gysylltiedig â thân, ac anafiadau nad ydynt yn angheuol o ganlyniad i dân.

Ers 2001-2, mae rhanbarth De Cymru wedi gweld tuedd ar i lawr mewn digwyddiadau yn ymwneud â thân, sydd wedi gostwng bron i 70%. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae niferoedd y digwyddiadau wedi bod yn gymharol sefydlog, gan aros yn gyson am 10,000 i 13,000.1

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn buddsoddi arian, amser, a hyfforddiant sylweddol i leihau ac atal nifer y tanau damweiniol a bwriadol y gelwir arnynt flwyddyn ar ôl blwyddyn, fel rhan o’i genhadaeth barhaus; “i wneud De Cymru yn fwy diogel, trwy leihau risg”. Ddiwedd mis Hydref 2023, cyhoeddodd y Gwasanaeth ei Gynllun Gwella Blynyddol ar gyfer 2023/24, gan gynnwys amcanion gwella sy’n seiliedig ar y datganiad cenhadaeth hwn.

Yn ôl yr ystadegau yn eu Cynllun Gwella Blynyddol, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

  • Wedi cynnal 4,188 yn fwy o ymweliadau diogelwch yn y cartref yn ystod y flwyddyn ariannol hon nag y llynedd – fel rhan o ymdrechion atal cymunedol2
  • Wedi mynychu 44.9% yn fwy o Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig (DdGA) na’r llynedd2
  • Cymerwyd 34,682 o alwadau brys yn 2022/23 gan Ganolfan Reoli Tân ar y Cyd GTADC o’u cymharu â 32,454 yn 2021/22 – cynnydd o 6.8% ers y llynedd2

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway:

“Os hoffech chi weld beth yw’r tueddiadau digwyddiadau ar draws ein Gwasanaeth, a sut rydym yn cymharu â Gwasanaethau Tân ac Achub Cymreig cyfagos, darllenwch ystadegau digwyddiadau tân ac achub Llywodraeth Cymru. Mae ein hymateb gweithredol yn flaenoriaeth fawr i ni, ac yn rhywbeth yr wyf yn teimlo ein bod yn rhagori arno, er na allwn fod yn hunanfodlon, rhaid i ni i gyd sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas bob dydd. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y cymhwysedd a’r safonau uchaf, a dyna’r hyn y mae ein cymunedau yn ei geisio gennym.

“Mae’r adroddiad ystadegau yn un o’r adroddiadau ffeithiol gorau sydd gennym am ein hymateb i ddigwyddiadau brys, ac yn ddiweddar fe wnaethom gyflwyno sut mae hyn yn cymharu â Gwasanaethau Tân ac Achub tebyg yn Lloegr. Ar ôl cyhoeddi ein Cynllun Gwella Blynyddol (AIP) ddiwedd mis Hydref 2023, erbyn hyn gallwn rannu ac amlygu ein wyth thema strategol allweddol i ni ganolbwyntio arnynt ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r Cynllun Gwella Blynyddol yn cwmpasu wyth thema strategol allweddol, sy’n bwydo i mewn i strwythur blaenoriaethau a chynllunio GTADC.

Gellir gweld y cynllun yma. Mae’r wyth thema strategol allweddol fel a ganlyn:

Mae crynodeb o ganfyddiadau ystadegau eleni yn dangos y canlynol:

Yn eich cadw’n ddiogel

Yn ôl ystadegau StatsCymru a gyhoeddwyd yn ystadegau digwyddiadau Tân ac Achub Llywodraeth Cymru:

– Yn 2022-23, bu gostyngiad o 1% yn nifer y prif danau o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mewn tuedd hirdymor, mae prif danau wedi gostwng 70% yn Ne Cymru ers 2001-021.

– Yn 2022-23, mynychodd GTADC 987 o ymweliadau ag ysgolion i addysgu plant am gyngor diogelwch tân2

– cynhaliwyd 12,309 o wiriadau diogelwch yn y cartref, a chwblhawyd 655 o archwiliadau tân2

Gan gynnwys addysg a chynghori ar ofynion y Gorchymyn Diogelwch Tân, a gweithio gyda phartneriaid i leihau effaith newid yn yr hinsawdd ar ein cymunedau (er enghraifft, mwy o danau gwyllt a llifogydd), mae GTADC yn benderfynol o gadw De Cymru gyfan yn ddiogel.

Ymateb i’ch argyfwng

Fel ymatebwyr cyntaf yn ardal fwyaf poblog Cymru, mynychodd GTADC 18,705 o ddigwyddiadau yn y flwyddyn ariannol hon;

– Roedd 6,031 yn danau yn cynnwys tanau damweiniol mewn cartrefi, tanau glaswellt neu wyllt a thanau sbwriel2

– roedd 8,746 yn alwadau ffug2

– Roedd 3,928 yn ddigwyddiadau Gwasanaethau Arbennig2

Gweithio gyda’n partneriaid

Cynyddodd Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig (DGA), sy’n cynnwys achub o ddŵr a gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd gan olygu gweithio’n aml â phartneriaid gwasanaethau brys, megis yr Heddlu neu’r Ambiwlans, 11% yn 2022-23; yn ôl StatsCymru.1

Gwarchod a gwella ein hamgylchedd

 

Defnyddio technoleg yn dda

Yn 2022-23; Gwnaed a derbyniwyd 34,682 o alwadau gan y Cyd Reolwyr Tân ar gyfer GTADC.2

Nod Cynllun Gwella Blynyddol y Gwasanaeth yw darparu adnoddau ychwanegol i gefnogi prosiectau newydd a pharhaus ar gyfer Rheoli Tân ar y Cyd, er mwyn parhau â’u gwaith caled o ateb nifer fawr o alwadau brys a diogelu pobl De Cymru ill dau.

 

Dweud eich dweud ar ein Cynllun Gwella Blynyddol

Oes gennych chi syniadau am sut gall GTADC wella ar gyfer 2024/25? Os felly, cwblhewch yr arolwg ar-lein i Dweud Eich Dweud – argymhellir eich bod yn edrych ar y cynllun cyn ymateb.

Gallwch hefyd ddweud eich dweud drwy anfon e-bost atom yn hys@decymru-tan.gov.uk.

Ymunwch â chofrestr rhanddeiliaid GTADC

Os hoffech glywed mwy gan y Gwasanaeth, gallwch ymuno â’r gofrestr rhanddeiliaid, drwy law e-bost i hys@decymru-tan.gov.uk

 

1Ystadegau gan Ystadegau digwyddiadau tân ac achub Llywodraeth Cymru: Ebrill 2022 i Fawrth 2023

2Ystadegau gan Gynllun Gwella Blynyddol 2022/23 Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a/neu Gynllun Gwella Blynyddol 2023/24