Ymateb y Gwasanaeth i COVID-19

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i fonitro’n agos holl ganllawiau a chyngor a gyhoeddir gan y Lywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r COVID-19.

Mae gan y Gwasanaeth gynlluniau wrth gefn llawn â mesurau ar waith i sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth o’r radd uchaf.

Yn ogystal a’n gwasanaeth ymateb brys byddwn yn parhau i ddarparu addysg, yn ogystal â chyngor atal ac amddiffyn i gymunedau De Cymru ynhyd â mesurau rheoli ychwanegol.

Cynghorem y cyhoedd, yn garedig, i ddilyn yr holl ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru​ ill dau.

Diolch i chi i gyd am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus.