Ydych chi #AngenMwy? Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad

Mae diffoddwyr tân ar-alwad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dod o gefndiroedd amrywiol gan gynnwys pobl sy’n cynnal y cartref, siopwyr, adeiladwyr, ffermwyr, gweinyddwyr a chyfarwyddwyr cwmnïau, yn ogystal â phobl nad ydynt yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd.

Rhwng y 1af a’r 7fed o Fawrth rydym yn cefnogi Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (CCPT) fel rhan o ymgyrch gyfan y DU i annog mwy o bobl i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau lleol drwy ddod yn ddiffoddwr tân ar-alwad. Yn ystod yr ymgyrch byddwn yn defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i chwalu mythau a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael gan ddefnyddio’r hashnodau #AngenMwy a #ByddwchMwy.

Mae swydd ar alwad yn heriol ac yn werth chweil ill dau a darperir hyfforddiant llawn ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol cyn ymgeisio.

Dyma David Burton. Mae o’n gweithio fel Rheolwr Orsaf ar-alwad  Yn Abersychan ac Y Dafarn Newydd am y Pymtheg mlynedd diwethaf;

Mae diffoddwyr tân ar-alwad yn union yr un fath â diffoddwyr tân llawn amser, yn ymateb i danau a galwadau gwasanaethau arbennig megis gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, llifogydd a thrychinebau naturiol eraill. Maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol mewn hysbysu, atal ac addysgu cymunedau lleol mewn diogelwch tân gan gynnwys cynnal ymweliadau diogelwch a lles.

Dywedodd Steve Cooper, Arweinydd Ar- Alwad a Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru; “Mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth enfawr i’ch bywyd, a chymryd rhan mewn pethau na fyddech chi byth yn eu gwneud fel arall – mae mor amrywiol. Gallech fod yn gosod synhwyrydd mwg un diwrnod, mynychu digwyddiad cemegol y diwrnod wedyn ac ymweld ag ysgol y diwrnod ar ôl hynny,ac  mae pob diwrnod yn wahanol. Bydd yn eich newid fel unigolyn. Gyda’ch cymorth chi, gallwn wasanaethu ein cymunedau’n well.”

Ewch i ein tudalen Diffoddwr Tân ar Alwad i gael mwy o wybodaeth a chychwyn eich taith heddiw!