Y Gwasanaethau Tân ac Achub Cymreig yn ymbil ar breswylwyr i ‘Gadw’n Ddiogel Rhag Tân’ y gaeaf hwn

Y Gwasanaethau Tân ac Achub Cymreig yn ymbil ar breswylwyr i ‘Gadw’n Ddiogel Rhag Tân’ y gaeaf hwn

Mae pob Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig ac Iechyd Cyhoeddus Cymru’n ymbil ar bobl i gymryd camau syml i’w diogelu’u hunain rhag tanau damweiniol a gwenwyno carbon monocsid wrth iddynt geisio cadw’n glyd ac arbed ynni’r gaeaf hwn. Daw’r alwad yn dilyn pryderon gan Y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol (CPTC) bydd yr argyfwng costau byw yn golygu gall pobl droi at ffyrdd amgen o wresogi a goleuo’u cartrefi.

Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig cyfan yn cefnogi ymgyrch Cadw’n Ddiogel Rhag Tân y CPTC i ddarparu cyngor i helpu lleihau risgiau tân yn y cartref. Mae’r ymgyrch yn cynnwys annog pobl i gysylltu â’u Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i roi cais am wiriad Diogel ac Iach/Archwiliad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref iddyn nhw eu hunain neu eu hanwyliaid. Blaenoriaethir y gwiriadau hyn ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl rhag tân yn y cartref ac mae modd iddynt gynnwys ymarferwyr diogelwch yn y cartref yn cysylltu i gyflwyno cyfres o gwestiynau a ddilynir gan ymweliad a all gynnwys gosod larymau tân yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Iwan Cray, Cadeirydd Grŵp Lleihau Risg Cymunedol Tân ac Achub Cymru Gyfan: “Mae’n hanfodol bydd pobl yn sicrhau fod ganddynt larymau tân gweithredol – o leiaf un ar bob lefel o’r tŷ. Drosodd a thro rydym yn gweld sut gall larwm tân fod y gwahaniaeth rhwng byw a marw pan fydd tân yn digwydd.

Os ydych chi’n defnyddio peiriant gwresogi nad sy’n defnyddio trydan, rydym yn cymeradwyo gosod larwm carbon monocsid. Nwy di-liw a diarogl yw Carbon Monocsid na ellir ei synhwyro wrth weld neu arogli, ond mae canfyddiad cynnar y nwy marwol hwn drwy law larwm CM gweithiol yn arbed bywydau. Dylid gwirio pob larwm yn rheolaidd i weld os ydyn nhw’n gweithio wrth wasgu’r botwm profi o leiaf un waith bob mis.

Mae’n bwysig, lle taw dim ond un ystafell yn unig bydd pobl yn gallu gwresogi, a’u bod nhw’n defnyddio honno i fyw ac i gysgu, eu bod yn gallu clywed larymau, fel y gallent gael eu rhybuddio ynglŷn â thân neu lefelau peryglus o garbon monocsid wrth iddynt gysgu.

Dywedodd Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Amddiffyniad Iechyd Amgylcheddol i Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Gall tywydd oer beri risgiau iechyd cyhoeddus difrifol gan gynnwys hypothermia, cwympiadau, anafiadau a gwenwyno carbon monocsid o ganlyniad i foeleri a pheiriannau coginio a gwresogi sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n neu’u hawyru’n wael.

Un o’r ffyrdd pwysicaf gallwch chi a’ch teulu baratoi ar gyfer y gaeaf yw trefnu i’ch peiriannau gwresogi a choginio cael eu gwasanaethu. Sicrhewch fod ffliwiau a simneiau wedi’u sgubo ac y cynhelir a gwasanaethir boeleri’n gywir. Os ydych chi’n defnyddio olew gwresogi, LPG neu gynnyrch coed, ceisiwch ail-gyflenwi cyn y gaeaf os allwch fforddio gwneud hynny. Yn ychwanegol, sicrhewch fod gennych larwm carbon monocsid gweithiol a chlywadwy (sy’n cydsynio ag EN 50291).”

Ychwanegodd Iwan Cray: “Mae newidiadau i reoliadau’n golygu bod rhaid i landlordiaid osod larymau mwg ym mhob un annedd a larymau carbon monocsid lle bydd gwres yn cael ei gynhyrchu gan nwy, coed, olew neu lo mewn llety rhent, o’r 1af o Ragfyr yng Nghymru. Byddwn yn cynghori tenantiaid i sicrhau fod eu landlord yn cydymffurfio i’w helpu eu cadw’n ddiogel.”

Hefyd, bydd yr ymgyrch yn rhannu cyngor diogelwch tân ar wresogi, canhwyllau a deunydd trydanol. Wrth grynhoi, dywedodd Iwan Cray: “Er mwyn dygymod yn ddiogel â’r cynnydd mewn costau byw, mae’n hanfodol nad ydyn ni’n rhoi ein hunain neu ein hanwyliaid mewn perygl. Gall eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol ddarparu cyngor ar leihau risg tân damweiniol dinistriol a byddant yn gweithio i gefnogi ein cymunedau a helpu cadw pobl yn ddiogel. Gellir rhoi cais am wiriadau Diogel ac Iach/Archwiliad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref wrth alw 0800 169 1234”

 Argymhellion i gadw preswylwyr yn ddiogel rhag tân:

  • Gwiriwch fod unrhyw beiriannau gwresogi mewn cyflwr gweithiol da a heb fod yn destun adalwad cynnyrch wrth wirio gwefan Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau am unrhyw rybuddion neu adalwadau;
  • Sicrhewch bydd eitemau fflamadwy fel celfi a dillad sy’n sychu yn cael eu gosod yn bell o wresogyddion a thanau;
  • Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r tanwydd cywir ar gyfer ffyrnau llosgi coed a thanau agored i leihau’r risg o fygdarthau gwenwynol, tanau simnai a gwenwyno carbon monocsid;
  • Os oes gennych dân agored, sicrhewch fod gennych gard dân o’i gwmpas i helpu atal unrhyw ddeunydd rhag cynnau tân yn eich cartref a chadw plant ac anifeiliaid anwes rhagddo;
  • Ceisiwch osgoi prynu nwyddau trydanol ffug neu ddynwaredol a all achosi tanau trydanol;
  • Os nad yw’n ymddangos fod eich larwm mwg yn gweithio ac rydych chi wedi gwirio’r batris, trefnwch iddynt gael eu hamnewid neu eu trwsio;
  • Gwiriwch eich llwybrau dianc, a sicrhewch eu bod yn glir rhag annibendod ac nad yw eitemau fel gwresogyddion cludadwy yn eu rhwystro;
  • Os yn bosib, peidiwch hepgor gwasanaethu boeleri a pheiriannau nwy gan beiriannydd Diogelwch Nwy i atal gollyngiadau nwy a gwenwyno carbon monocsid;
  • Rhaid i landlordiaid drefnu gwiriad diogelwch nwy blynyddol mewn llety rhent;
  • Os ydych yn berchennog tŷ, gwiriwch wefan eich darparwr ynni am wybodaeth am eu Cofrestr Blaenoriaeth Gwasanaeth – os ydych yn gymwys, yn aml maen nhw’n cynnig gwiriad diogelwch nwy blynyddol ynghyd â chymorth arall.

I roi cais am wiriad Diogel ac Iach/Archwiliad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref: 

Galwch 0800 169 1234 neu ymwelwch â

Am ymholiadau’r wasg: