Wythnos Diogelwch Tân Trydanol 2022

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn annog cartrefi i ddilyn cyngor achub bywyd yn dilyn bron 1,000 o danau trydanol 

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn annog cartrefi i fod yn wyliadwrus a dilyn cyngor diogelwch achub bywyd ar ôl pryder cynyddol am ddiogelwch tân trydanol yn y cartref. Yn y tair blynedd hyd at y 31ain o Hydref 2022, mynychodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru bron i fil o danau trydanol damweiniol yn y cartref.

Mae’r alwad am weithredu yn cyd-fynd ag Wythnos Diogelwch Tân Trydanol (14 – 20 Tachwedd 2022), sef ymgyrch ymwybyddiaeth defnyddwyr a gynhelir gan Electrical Safety First mewn partneriaeth â’r Swyddfa Gartref. 

Gyda phryderon ynghylch costau byw yn flaenoriaeth yn ein meddyliau, efallai y bydd preswylwyr yn ystyried dulliau amgen o wresogi’r cartref, megis gwresogyddion trydan neu losgwyr coed tân. Fodd bynnag, mae costau cynyddol yn golygu bod atal tân yn y cartref erbyn hyn yn bwysicach nag erioed. Mae’n hanfodol bod y dyfeisiau hyn yn cael eu defnyddio’n gywir gan heb beryglu diogelwch. 

Dywedodd Bleddyn Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a Rheolwr Grŵp: 

“Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mynychodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru bron i fil o danau trydanol damweiniol yn y cartref. 

Rydym yn deall y bydd llawer o aelwydydd am fanteisio ar y ‘Cynlluniau Hyblygrwydd Galw’ gan gyflenwyr ynni i redeg offer ar adegau allfrig. Fodd bynnag, rydym yn eich annog i fod yn wyliadwrus a pheidiwch byth â’u gadael ymlaen heb oruchwyliaeth, yn enwedig dros nos. Os bydd tân yn cynnau tra byddwch yn cysgu, bydd llai o amser gyda chi i gael eich rhybuddio a dianc, gan roi eich hun, eich anwyliaid a’ch cartref mewn perygl. 

Peidiwch byth â gadael offer trydanol ymlaen dros nos neu heb oruchwyliaeth a sicrhewch fod gennych larymau mwg sy’n gweithio a phrofwch nhw’n rheolaidd. Os oes angen unrhyw gyngor diogelwch arnoch neu os hoffech chi gael Ymweliad Diogelwch Cartref, llenwch y ffurflen ar-lein, sydd gan bob Gwasanaeth Tân ac Achub. Ni ddylem byth gymryd diogelwch ein cartrefi yn ganiataol.” 

Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn aml yn mynd i danau a achosir gan nwyddau ac offer gwyn nad ydynt yn gweithio ac yn ddiffygiol. Mae perygl i’r rheini gynyddu gan fod pobl yn ceisio cyfyngu ar eu costau ynni gartref drwy geisio manteisio ar unrhyw gynlluniau allfrig sydd ar gael. 

Dywedodd Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân ac Ardal y Gorllewin gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,: 

“Mae tanau trydanol yn peri risg wirioneddol i berchnogion tai, ac yn aml maent yn arwain at ddifrod sylweddol i eiddo, gyda’r canlyniadau mwyaf trasig ar adegau. 

Yn ystod Wythnos Diogelwch Tân Trydanol, manteisiwch ar y cyfle i wirio eich cartref ac ystyried diogelwch eich teulu. 

Mae defnyddio offer a dyfeisiau trydanol yn briodol yn hanfodol- mae gorlwytho socedi, defnyddio’r gwefrwyr anghywir, a pheidio â gwirio’r gwifrau ar eitemau yn achosion cyffredin o danau yn y cartref, ond mae modd eu hosgoi i gyd yn hawdd. 

Pe bai tân yn cynnau, gall yr effeithiau fod yn ddinistriol os na chânt eu canfod yn ddigon cynnar, yn enwedig os bydd hyn yn digwydd dros nos.” 

Gall preswylwyr ddilyn yr awgrymiadau diogelwch tân trydanol hyn, i leihau’r risg y bydd tân damweiniol yn cychwyn yn eu cartref: 

  • Gweithredwch offer yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
  • Cadwch offer trydanol yn lân, mewn cyflwr gweithredol da a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu gwasanaethu’n rheolaidd yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
  • Peidiwch â phrynu nwyddau trydanol ffug neu lwgr, mae’n bosib na fydd y rhain wedi cael eu profi ac a heb fodloni’r safonau diogelwch gofynnol.
  • Peidiwch â gadael offer trydanol yn y modd segur, oni bai eu bod wedi’u dylunio i gael eu gadael ymlaen (oergelloedd a rhewgelloedd er enghraifft). Dylai pob teclyn arall gael ei ddiffodd wrth y plwg, gan dynnu’r plwg yn ddelfrydol, cyn mynd allan neu cyn mynd i’r gwely.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio peiriannau golchi dillad, peiriannau sychu dillad a pheiriannau golchi llestri dros nos neu os ydych chi oddi cartref. Peidiwch â gwefru ffonau na theclynnau dros nos a pheidiwch â’u gosod ar ddodrefn meddal megis yn eich gwely neu ar eich gwely.
  • Os ydych chi’n defnyddio peiriant sychu dillad, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i awyru’n dda, gwnewch yn siŵr nad yw’r bibell awyru wedi cael ei phlygu na’i rhwystro na’i malu mewn unrhyw ffordd. Glanhewch yr hidlydd bob amser ar ôl defnyddio eich peiriant sychu dillad.
  • Gwiriwch eich socedi’n rheolaidd – os gwelwch olion llosgi neu os ydynt yn teimlo’n boeth, peidiwch â’u defnyddio a gofynnwch i drydanwr cofrestredig wirio a oes angen eu trwsio neu eu newid.
  • Sicrhewch fod unrhyw wresogyddion trydan cludadwy yn cael eu defnyddio’n ddiogel. Ni ddylent gael eu defnyddio i sychu na chynhesu dillad, ac ni ddylid eu gadael ymlaen heb fod neb yn gofalu amdanynt.
  • Os ydych chi’n defnyddio blanced drydan, gwiriwch ei bod hi mewn cyflwr da a bod cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn cael eu dilyn. Os yw’r blanced yn fwy na phum mlwydd oed, ystyriwch brynu un newydd gan adwerthwr cymeradwy a sicrhau ei bod yn cael ei storio’n gywir i osgoi difrod i’r gwifrau mewnol.
  • Defnyddiwch geblau estyniad lluosol lle gellir rheoli pob plwg yn annibynnol, yn hytrach nag addasydd ‘bloc’. Er mwyn osgoi gorlwytho, peidiwch â gadael i gyfanswm ampiau’r holl blygiau yn yr addasydd fynd dros 13 amp (neu 3000 wat o bŵer). Peidiwch â phlygio addaswyr i mewn i addaswyr eraill.

Ar ddechrau’r wythnos hefyd bydd y Gwasanaethau Tân ac Achub yn hyrwyddo ymgyrch Cofrestru My Appliance AMDEA 

Dywedodd Wayne Thomas, Rheolwr Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru,: 

“Rydym am i chi gadw’n ddiogel, a gyda’r gaeaf yn agosáu a’r gost o wresogi ein cartrefi yn cynyddu o bosib, rydym yn eich annog i gymryd ychydig o gamau syml a allai hefyd arbed rhywfaint o arian i chi. Mae cofrestru eich offer newydd, rhai hen neu ail law yn golygu os oes problem yn ymwneud â galw cynnyrch yn ôl neu’n ymwneud â diogelwch y byddwch yn cael eich hysbysu, a gall hyn atal tân neu gyflwr peryglus posibl. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd a dim ond am ddiogelwch cynnyrch y byddan nhw’n cysylltu â chi.” 

Gallwch gofrestru offer hen a newydd yma

Mae holl Wasanaethau Tân ac Achub Cymru yn cefnogi ymgyrch Cadw’n Ddiogel rhag Tân CCPT i ddarparu cyngor a helpu i leihau risgiau tân yn y cartref. Mae’r ymgyrch yn cynnwys annog pobl i gysylltu â’u Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i ofyn am Wiriad Diogel ac Iach / Diogelwch yn y Cartref iddyn nhw eu hunain neu eu hanwyliaid. Mae’r gwiriadau hyn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o dân yn y cartref a gallant olygu bod ymarferwyr diogelwch yn y cartref yn cysylltu â nhw i ofyn cwestiynau ar restr, ac yna drefnu ymweliad a allai olygu gosod larymau am ddim. 

I ofyn am Wiriad Diogel ac Iach/Gwiriad Diogelwch yn y Cartref: 

Galwch 0800 169 1234 neu ewch i: