Wythnos Diogelwch Drysau Tân 2020

Gwelir yn aml mai drysau tân yw’r amddiffynfa gyntaf mewn tân, yn enwedig pan fyddwn yn cysgu ac yn fwyaf agored i niwed. Gall manyleb gywir ar eu cyfer, eu gosod, eu cynnal a’u rheoli’n briodol olygu bywyd neu farwolaeth.

Er gwaethaf hyn oll, mae achosion o dorri rheolau drysau tân yn parhau i fod yn un o’r dirwyon mwyaf cyffredin a weithredir o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân, gyda phroblemau cyffredin yn amrywio o ddrysau’n cael eu dal ar agor, drysau ar goll neu wedi’u difrodi neu hyd yn oed ddrysau nad ydynt yn ddrysau tân yn cael eu gosod yn eu lle.

Fel rhan o’r ymgyrch Mae Tân yn Lladd, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Wythnos Ddiogelwch Drysau Tân rhwng yr 21ain a’r 27ain o Fedi gan annog rheolwyr adeiladu, landlordiaid, tenantiaid a phob defnyddiwr adeiladu i wirio gweithrediad a chyflwr eu drysau tân a’u hatgyweirio (os yn bosibl) neu adrodd am y rhai nad ydynt yn foddhaol.

Dywedodd Owen Jayne, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Ni ellir pwysleisio gormod y gwahaniaeth y gall drws tân effeithiol ei wneud. Nid drws allanfa dân yw drws tân bob amser ac fe’i nodir fel arfer gan arwydd glas ‘DRWS TÂN CADWCH AR GAU’ a welir yn aml ar uchder y llygaid. Mae drysau tân yn rhan hanfodol o’n diogelwch rhag tân, maent yn helpu i rannu adeilad, megis fflatiau, cadw a dal tân a mwg am gyfnod mewn un man, fel y gellir mynd i’r afael â’r tân, gan allu gwacáu pobl yn ddiogel.

“Os ydych wedi gweld drws tân wedi’i ddifrodi neu os ydych chi’n gwybod am ddrws mynediad i fflatiau nad yw wedi’i archwilio ar gyfer diogelwch tân, rhowch wybod i’ch landlord neu reolwr adeiladu ar unwaith ac os gwelwch ddrws tân yn cael ei ddal ar agor, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gau – ni all drws tân weithio pan fydd ar agor.”

Dyma awgrymiadau Wythnos Diogelwch Drysau Tân ar gyfer Archwiliad Drysau Tân 5 Cam y gall unrhyw un ei wneud, sy’n rhoi gwybod i chi a ddylech alw’r gweithwyr proffesiynol:

  • Chwiliwch am ardystiad – A oes label neu blwg ar ben (neu weithiau ar ochr) y drws i ddangos ei fod yn ddrws tân wedi’i dystysgrif?
  • Archwiliwch y bylchau – Archwiliwch y bylchau o amgylch pen ac ochrau’r drws i weld a ydynt i gyd yn llai na 4mm pan fyddant ar gau. Chwiliwch am ardystiad – Oes label neu blwg ar ben (neu weithiau ar ochr) y drws i ddangos ei fod yn ddrws tân wedi’i ardystio?
  • Archwiliwch gyflwr y seliau – Oes unrhyw seliau chwyddedig o gwmpas y drws neu’r ffrâm, ac a ydynt yn gyfan heb unrhyw ôl difrod?
  • Archwiliwch y colfachau – Ydy’r colfachau wedi’u gosod yn gadarn (tri neu fwy), heb sgriwiau ar goll neu wedi torri?
  • Gwnewch yn siwr bod y drws yn cau’n iawn – Agorwch y drws tua hanner ffordd, gadewch iddo fynd a gadael iddo gau ar ei ben ei hun. Ydy e’n cau’n gadarn ar y glicied heb lynu wrth y llawr na’r ffrâm?

I gael mwy o fanylion, ewch i www.firedoorsafetyweek.co.uk.

Dolenni Defnyddiol