Yr Ŵyl Achub yn Dychwelyd

Digwyddodd yr Ŵyl Achub eto dros y penwythnos (y 17eg a’r 18fed o Fedi) ac ar ddiwedd diwrnod heriol daeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru adref gyda chanlyniadau rhagorol.

Yn ystod y digwyddiad daeth 300 o gystadleuwyr ynghyd o’r 25 gwasanaeth Tân ac Achub o fewn y DU i arddangos eu sgiliau achub bywydau yn yr Afon Tyne ac yn yr ardal gyfagos. Brwydrodd y 67 tîm oedd yn cymryd rhan mewn pum prif ddisgyblaeth – yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, i ddod yn bencampwyr o fewn eu meysydd penodol.

Roed y pum prif ddisgyblaeth yn cynnwys:

  • Datglymu o Gerbydau
  • Gofal Trawma
  • Chwilio ac Achub Trefol
  • Achub â Rhaff
  • Achub o Ddŵr

Digwyddodd yr Ŵyl Achub eto dros y penwythnos hwn ac ar ôl deuddydd caled a blinedig iawn o heriau cyson daeth Timau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru adref gyda chanlyniad syfrdanol.

Hoffem longyfarch holl dimau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar ennill;

 

Yr Her Datglymu

1af – Tîm GTA De Cymru (Pen-Y-Bont)

1af – Rheolwr Digwyddiadau GTA De Cymru (Pen-Y-Bont) (Roger Magan)

3ydd – Tîm Meddygol GTA De Cymru (Pen-Y-Bont) (Leslie Evans a Rob Buckley)

 

Her Achub o Gerbydau Trwm

3ydd – GTA De Cymru (Porthcawl) a GTA Swydd Suffolk

 

Her Achub â Rhaff

1af  – Tîm GTA De Cymru

1af  – Rheolwr Digwyddiadau GTA De Cymru (Emma Atcherley)

1af – Tîm Meddygol GTA De Cymru (Paul Turner)

1 af – Tîm Technegol GTA De Cymru

 

Her Trawma

2il – – Tîm GTA De Cymru (Nathan Moyle a Rob Buckley)

Canlyniad syfrdanol o ganlyniad i ymroddiad, paratoi a hyfforddi parhau.

  

Dywedodd Rheolwr Grŵp Shaun Moody:

‘Roedd cymryd rhan yn yr Ŵyl Achub eleni yn fraint fawr gennym. Mae’r digwyddiad unigryw yn dathlu sgiliau ac ymroddiad gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU. Mae’r ŵyl yn darparu llwyfan genedlaethol sy’n amlygu’r disgyblaethau arbenigol hynny sy’n allweddol mewn digwyddiadau ac argyfyngau gwirioneddol. ‘Rwy’n falch dros ben o’r hyn a gyflawnon ni yn ystod y penwythnos llawn gweithgarwch, canlyniad rhyfeddol ym mhob ffordd, ymroddiad, paratoi a hyfforddiant parhaus. Llongyfarchiadau mawr i’r holl Wasanaethau eraill a gymerodd ran yn yr her eleni ac edrychwn ymlaen at gystadlu eto, y flwyddyn nesaf.”

 

Ceir rhestr gyflawn o’r ennillwyr a’r rhai nesaf at y gorau yma – ukro.org/?page_id=1691