Tân Preswyl- Graig View, Ynysddu

Am o gwmpas 7:27yb ar Ddydd Mawrth , Mai’r 21ain 2019, derbyniwyd adroddiadau gennym o dân mewn annedd yn Graig View, Ynysddu.

Cyrhaeddodd criwiau o Aberbargod a’r Rhisga’r lleoliad, gan gynnal achubiad a diffodd y tân drwy ddefnyddio chwistrell rholyn pibell, camerâu delweddau thermol ac offer anadlu.

Darparodd Diffoddwyr Tân ymyrraeth adfywio a meddygol ar y safle cyn cyrhaeddodd y parafeddygon ac aed ag un person i Ysbyty Treforys drwy law ambiwlans awyr i drin eu hanafiadau.

Dywedodd Jason Evans, Rheolwr Ardal Heddlu De Cymru: ‘Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i’n diffoddwyr tân a’n partneriaid fynychu’r safle. Rydym yn meddwl am y rhai sydd ynghlwm ar hyn o bryd. Ar yr achlysur hwn, synhwyrodd larwm mwg y tân a hoffwn atgoffa aelodau’r gymuned o bwysigrwydd sicrhau bod ganddynt larwm mwg sy’n gweithio’n gyflawn a chanfodyddion gwres ac y gwirir y rhain yn rheolaidd.’

Mae ymchwiliad i achos y tân yn parhau.